Gallia Belgica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:REmpire-Gallia Belgica.png|bawd|dde|250px|Talaith Gallia Belgica]]
 
Yr oedd talaith Rufeinig '''Gallia Belgica''' yn cynnwys y tiriogaethau sydd nawr yn rhan ddeheuol [[Yr Iseldiroedd]], [[Luxembourg]], gogledd-ddwyrain [[Ffrainc]] a rhan o orllewin [[Yr Almaen]]. Roedd y trigolion, y [[Belgae]], yn gymysgedd o [[Celt|Geltiaid]] a llwythau Almaenaidd.
 
Gorchfygwyd y Belgae gan [[Iŵl Cesar]] yn ystod ei ryfeloedd yng [[Gâl|Ngâl]]. Yn [[27 CC]] rhannodd yr ymerawdwr [[Augustus]] y tiriogaethau i'r gogledd o'r Alpau yn dair talaith: [[Gallia Aquitania]], [[Gallia Lugdunensis]], a Gallia Belgica.
Llinell 7:
Yn [[17 CC]] gorchfygwyd rhaglaw y dalaith, [[Marcus Lollius]], gan y [[Sugambres]] a chipiwyd eryr y bumed lleng Alaudae. Gyrrodd Augustus [[Tiberius]] a [[Drusus yr Hynaf|Drusus]] i Germania, ac wedi iddynt orchfygu'r llwythau Almaenaidd crewyd dwy dalaith filitaraidd ar lan orllewinol [[Afon Rhein]] i amddiffyn Gallia Belgica. Daeth y rhain yn daleithiau [[Germania Inferior]] a [[Germania Superior]]. Enillodd talaith Gallia Belgica diriogaeth oddi wrth Gallia Lugdunensis, a daeth [[Rheims]] yn brifddinas.
 
Rhwng 268 a 278 torrodd y llwythi Almaenaidd dros y ffin i ysbeilio Gâl, ond yn 278 llwyddodd yr ymerawdwr [[Probus]] i ail-sefydlu'r ffin. Erbyn y bumed ganrif nid oedd Gallia Belgica dan lywodraeth Rhufain, a daeth yn rhan o deyrnas y [[Merofingiaid]]. Yn yr wythfed ganrif, y dalaith hon oedd calon ymerodraeth [[Siarlymaen]].
 
{{Taleithiau Rhufeinig}}