Boii: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 2il ganrif CC2 CC, 3edd ganrif CC3 CC using AWB
B →‎top: clean up
 
Llinell 3:
Llwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] oedd y '''Boii''' ([[Lladin]] lluosog, yr unigol oedd ''Boius''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Βοιοι''). Ceir cyfeiriadau atynt ar wahanol adegau yng [[Gâl|Ngâl]], yn cynnwys gogledd [[yr Eidal]], [[Pannonia]] (gorllewin [[Hwngari]] heddiw), [[Bohemia]], [[Morafia]] a gorllewin [[Slofacia]]. Cadwyd eu henw yn yr enw "Bohemia".
 
Dywedir gan awduron clasurol iddynt groesi o [[Gallia Transalpina]] ac ymsefydlu ar y gwastadeddau o amgylch [[Afon Po]], ar ôl gorchfygu'r [[Etrwsciaid]] lleol. Yn ystod ail hanner y [[3 CC]] ffurfiodd y Boii a llwythau Celtaidd eraill gogledd yr Eidal gynghrair â'r Etrwsciaid yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain]]. Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid mewn cynghrair a [[Hannibal]] hefyd, gan ladd y cadfridog Rhufeinig Lucius yn [[224 CC]], ac wedyn yn [[193 CC]] ger Mutina ([[Modena]] heddiw). Wedi hyn, gadawodd llawer o'r Boii yr Eidal.
 
Roedd cangen arall o'r llwyth wedi ymsefydlu yn Pannonia. Dywed [[Strabo]] iddynt orchfygu ymosodiadau gan y [[Cimbri]] a'r [[Teutones]] yn yr [[2 CC]]. Ymunodd carfan ohonynt a'r [[Helvetii]] pan geisiodd y llwyth hwnnw ymfudo i orllewin Gâl, a chael eu gorchfygu gan [[Iŵl Cesar]]. Caniataodd llwyth yr [[Aedui]] i weddillion y rhain ymsefydlu yn eu tiriogathau hwy, yn cynnwys ''[[oppidum]]'' [[Gorgobina]].
 
Roedd cangen arall o'r Boii ar wastadeddau Hwngari o gwmpas [[Afon Donaw]]. Cofnodir iddynt gael eu gorchfygu gan y [[Daciaid]] tua [[40 CC]].
 
Mae olion ohonynt i'w gweld mewn enwau lleoedd megis [[Bohemia]] (''Boio-haemum'' = "cartref y Boii"), [[Bafaria]] (''Bai-ovarii'' = "Baio-ymladdwr") a ''Bononia'' (yr hen enw ar ddinas [[Bologna]]).