Eburones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Ambiorix.jpg|bawd|Ambiorix]]
Llwyth [[Belgae|Belgaidd]] yn byw yn ngogledd-ddwyrain [[Gâl]] oedd yr '''Eburones''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: {{Hen Roeg|Ἐβούρωνες}}, [[Strabo]]). Yn ôl [[Iŵl Cesar]], roeddynt yn bobl o dras Almaenig oedd a'u prif diriogaethau rhwng [[Afon Rhein]] ac [[Afon Maas]], i'r dwyrain o'r [[Menapii]]. Yn ddiweddarach daeth yr ardal yn rhan o dalaith Rufeinig [[Germania Inferior]].
 
Yn [[54 CC]], gadawodd Iŵl Cesat leng a phum cohort i aeafu yn nhiriogaeth yr Eburones, dan y legad [[Quintus Titurius Sabinus]] a [[Lucius Aurunculeius Cotta]]. Ymosododd yr Eburones arnynt, dan eu dau frenin [[Ambiorix]] a [[Cativolcus]], gyda chymorth eu cyngheiriaid, y [[Nervii]]. Persiawiwyd y Rhufeiniaid i adael eu gwersyll, ar yr addewid y byddent yn cael mynd yn rhydd i ymuno a byddin Cesar, ond wedi iddynt ddechrau ar eu taith, ymosododd yr Eburones arnynt a lladd bron y cyfan, tua 6,000 o filwyr. Methodd ymosodiad ar wersyll Rhufeinig arall, dan [[Quintus Tullius Cicero]], brawd [[Cicero]].
 
Y flwyddyn wedyn, ymososodd Cesar ar yr Eburones. Lladdodd Cativolcus ei hun, a ffôdd Ambiorix. Rhoddodd Cesar wahoddiad i'r bobloedd o'u cylch ddod i anrheithio tiroedd yr Eburones.