Hanes Cernyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g (2), 18fed ganrif18g (2), 14eg ganrif14g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:England Celtic tribes - South.svg|bawd|Y llwythi Celtaidd yng Nghernyw.]]
[[Delwedd:Tintagel Ruins - Mainland Courtyard 01.JPG|bawd|Gweddillion y castell Normanaidd yn [[Tintagel]].]]
Mae '''hanes [[Cernyw]]''' yn dechrau gyda chysylltiadau rhwng Cernyw a marsiandïwyr o wledydd o gwmpas [[Môr y Canoldir]] oedd yn cael eu denu yma gan y mwynfeydd [[tun]]. Roedd tun yn cael ei gynhyrchu yng Nghernyw o [[Oes yr Efydd]]; roedd y metel yn arbennig o bwysig gan ei fod yn cael ei gymysgu a [[Copr|chopr]] i gynhyrchu [[efydd]]. Daw'r cofnod hanesyddol cyntaf am Gernyw gan yr hanesydd Groegaidd [[Diodorus Siculus]] (c.[[90 CC]]–c.[[30 CC]]);
 
Gelwid Cernyw yn ''Cornubia'' gan y Rhufeiniaid, ond nid oes llawer o olion Rhufeinig wedi eu darganfod yma. Erbyn y cyfnod yma roedd tun i'w gael yn haws o Benrhyn Iberia, felly roedd pwysigrwydd economaidd yr ardal yn llai. Wedi i'r Rhufeiniaid adael ymddengys fod Cernyw yn rhan o deyrnas Frythonig [[Dumnonia]] neu Dyfnaint. Ymddangosodd teyrnas Cernyw tua'r 6ed ganrif. Hon oedd Oes y Saint, a daeth nifer o seintiau Cernyw i amlygrwydd, yn enwedig Sant [[Piran]].
 
Erbyn yr 8fed ganrif roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn "Hehil" yn [[721]], ond yn [[838]] gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin [[Wessex]]. Cofnodwyd yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' am [[875]] fod Dungarth, brenin Cerniu ("id est Cornubiae") wedi boddi. Yn [[936]], nodir i [[Athelstan]] osod [[Afon Tamar]] fel ffin orllewinol Wessex.
 
Erbyn [[1066]] ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibynniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, [[Cadog, brenin Cernyw|Cadog]], gan y Normaniaid. Datblygodd llenyddiaeth boblogaidd Gernyweg yn y [[14g]]. Cyn cyfnod y Tuduriaid byddid yn aml yn nodi bod cyfreithiau'n weithredol ''in Anglia et Cornubia''; ond o gyfnod y Tuduriaid ymlaen cymerwyd fod "Anglia" yn cynnwys Cernyw.
Llinell 12:
[[Delwedd:Baner Meibion Kerow.png|bawd|chwith|Baner Mebyon Kernow]]
 
Yn [[1755]] tarawyd arfordir Cernyw gan [[tsunami]] a achoswyd gan ddaeargryn mawr [[Lisbon]]. Parhaodd mwynfeydd tun Cernyw yn bwysif yn y [[18g]], ond erbyn ail hanner y [[19g]] roedd y tun yn dechrau darfod, ac ymfudodd llawer o Gernywiaid. Tua diwedd y [[18g]] tyfodd [[Methodistiaeth]] yn gyflym yng Nghernyw yn dilyn ymweliadau gan [[John Wesley|John]] a [[Charles Wesley]].
 
Ffurfiwyd plaid genedlaethol [[Mebyon Kernow]] yn [[1951]] i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.