Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Yr Ugeinfed Ganrif hyd y presennol: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 19eg ganrif19g using AWB
B clean up
Llinell 1:
Mae'r cofnodion cyntaf am '''hanes Llydaw''' yn dod o awduron clasurol megis [[Strabo]] a [[Poseidonius]]. Cyfeirir at nifer o lwythau Celtaidd yn y diriogaeth sy'n awr yn [[Llydaw]], y [[Veneti (Gâl)|Veneti]], [[Armoricani]], [[Osismii]], [[Namnetes]] a'r [[Coriosolites]].
 
Yn ôl haneswyr fel [[Gildas]] a [[Nennius]], ymfudodd llawer o [[Brythoniaid|Frythoniaid]] o Brydain i Lydaw ar ôl ymadawiad y [[Rhufain|Rhufeinwyr]] yn [[410]] OC.. Fodd bynnag mae darganfyddiadau [[archaeoleg]]ol yn Llydaw yn awgrymu fod yr ymfudo yma yn perthyn i gyfnod cynharach, pan oedd Prydain yn parhau i fod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Y mewnfudo yma fu'n gyfrifol am greu'r iaith [[Llydaweg|Lydaweg]], sy'n perthyn yn agos i'r iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] ac yn arbennig i [[Cernyweg|Gernyweg]], ond yn llawer llai agos i'r hen iaith [[Galeg|Aleg]].
Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn Llydaweg, traethawd ar blanhigion, yn dyddio i tua
[[590]].
 
Wedi marwolaeth [[Siarlymaen]] yn [[814]], cyhoeddodd [[Morvan Lez-Breizh]] ei hun yn frenin Llydaw. Lladdwyd ef yn [[818]] mewn brwydr yn erbyn [[Louis Dduwiol]], olynydd Siarlymaen. Yn [[845]] crewyd teyrnas unedig yn Llydaw gan [[Nevenoe]] ([[Ffrangeg]]: Nominoë), Dug Llydaw, pan orchfygodd [[Siarl Foel]], brenin Ffrainc ym Mrwydr Ballon yn nwyrain Llydaw. Grorchfygwyd Siarl Foel eto gan y Llydawyr dan [[Erispoe]] ym Mrwydr Jengland yn [[851]], a bu raid i Siarl gydnabod annibyniaeth Llydaw. Roedd gan Llydaw ei [[Brenhinoedd a dugiaid Llydaw|brenhinoedd a'r breninesau]] ei hun.
Llinell 9:
==Colli ei hannibyniaeth==
 
Yn [[Rhyfel Olyniaeth Lydaw]], rhwng [[1341]] a [[1364]], fe wrthdarodd cynghreiriaid [[Lloegr]] yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Yn [[1488]] gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r [[Swistir]] a'r [[Eidal]]. Gorfodwyd Dug Llydaw, Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas ei ferch, [[Anna, Duges Llydaw|Anna]]. Y Dduges Anna oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol; gorfodwyd hi i briodi [[Louis XII, brenin Ffrainc]], a phan fu hi farw ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn [[1532]]. Roedd gan Llydaw rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan [[1789]]. Gwrthryfel yn erbyn y [[Chwyldro Ffrengig]] oedd y ''[[Chouanted]]'', a gefnogwyd gan y Saeson.
 
==Yr Ugeinfed Ganrif hyd y presennol==
Llinell 17:
Pan rannwyd Ffrainc yn ranbarthau gweinyddol, nid oedd rhanbarth ''[[Bretagne]]'' ond yn cynnwys pedwar allan o'r pump ''departement'' oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd [[Loire-Atlantique]], sy'n cynnwys [[Nantes]], un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]]; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth [[Alan Stivell]] yn adnabyddus. Mae mudiad [[Diwan]] wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.
 
Ar [[16 Mawrth]] [[1978]], drylliwyd y llong ''[[Amoco Cadiz]]'' gerllaw porthladd bychan [[Portsall]] yn [[Ploudalmézeau]]. Collwyd rhan helaeth o'i llwyth o [[olew]] i'r môr, gan greu difrod mawr ar draethau gogleddol Llydaw.
 
==Gweler hefyd==