Dyfnwal Frych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 11 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q712949 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 2:
Brenin [[Dál Riata]] yng ngorllewin [[yr Alban]] oedd '''Dyfnwal Frych''' ([[Gaeleg]]: '''Domnall Brecc''') (bu farw [[642]]).
 
Roedd Dyfnwal yn fab i [[Eochaid Buide]]. Ymddengys yn y cofnodion am y tro cyntaf yn [[622]], pan mae [[Brut Tigernach]] yn cofnodi ei fod yn ymladd fel cyngheiriad [[Conall Guthbinn]] o'r [[Clann Cholmáin]] ym [[Brwydr Cend Delgthen|Mrwydr Cend Delgthen]] yn [[Iwerddon]] ([[Meath]] mae'n debyg). Dyma'r unig dro y cofnodir i Dyfnwal ymladd brwydr ac ennill.
 
Daeth yn frenin Dál Riata tua [[629]]. Wedi i Dyfnwal dorri cynghrair Dál Riata a'r [[Cenél Conaill]], rhan o'r [[Uí Néill]], gorchfygwyd ef bedair gwaith yn olynol. Yn Iwerddon, gorchfygwyd ef a'i gyngheiriad [[Congal Cáech]] o'r [[Dál nAraidi]] gan [[Domnall mac Áedo]] o'r [[Cenél Conaill]], [[Uchel Frenin Iwerddon]], ym [[Brwydr Mag Rath|Mrwydr Mag Rath]] yn [[637]]. Gorchfygwyd ef gan y [[Pictiaid]] yn [[635]] a [[638]], ac yna cafodd ei orchfygu a'i ladd gan [[Owain I, brenin Alt Clut|Owain I]], brenin teyrnas [[Brython|Frythonaidd]] [[Alt Clut]] yn [[642]].
 
Ceir un pennill yn y [[Y Gododdin|Gododdin]] sy'n dathlu buddugoliaeth Owain a lladd Dyfnwal Frych; pennill sydd i bob golwg wedi ei chynnwys yn nhestun y Gododdin mewn camgymeriad. Mae'n gorffen: