Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif15g (3), 14eg ganrif14g, 13eg ganrif13g using AWB
B clean up
Llinell 74:
Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y [[13g]] hyd ddiwedd y [[15g]]; gan [[Madog ap Llywelyn]] (1294-96) a [[Llywelyn Bren]] (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad [[Owain Lawgoch]] yn y [[1370au]] i ryddhau'r wlad. Cododd [[Owain Glyndŵr]] mewn gwrthryfel yn [[1400]] a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.
 
Am ran helaeth o weddill y [[15g]] tynnwyd Cymru i mewn i [[Rhyfeloedd y Rhosynnau|Ryfeloedd y Rhosynnau]] a welodd y [[Lancastriaid]] a'r [[Iorciaid]] yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda [[Beirdd yr Uchelwyr]] yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd [[Harri Tudur]], nai [[Siasbar Tudur]] a disgynnydd i [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] [[Llywelyn Fawr]]. Yn [[1485]] glaniodd yn [[Sir Benfro]] gyda byddin o [[Ffrancod]]. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd [[Rhisiart III o Loegr]] ar [[22 Awst]] [[1485]] ar [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]].
 
Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] cyflwynwyd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith [[Gymraeg]] o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestanaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
Llinell 213:
{{Siroedd Cymru}}
{{Y Deyrnas Unedig}}
 
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}