Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif → 20g, 15fed ganrif → 15g, 8fed ganrif → 8g (2), 6ed ganrif → 6g using AWB |
B clean up |
||
Llinell 3:
Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint, mae '''hanes Cymru''' yn hir a diddorol. Gellid dadlau fod hanes [[Cymru]] fel gwlad, neu egin-wlad, yn dechrau yn ystod cyfnod rheolaeth yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Credir fod [[Cristnogaeth]] wedi ymgartrefu yng Nghymru tua diwedd y cyfnod hwnnw ac arferir galw'r cyfnod olynol yn [[Oes y Seintiau yng Nghymru|Oes y Seintiau]]. Yng nghyfnod y seintiau cynnar gwelwyd newidiadau sylfaenol ym [[Ynys Brydain|Mhrydain]] o dan bwysau'r goresgyniad [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] yn ne a dwyrain yr ynys a mewnfudo gan [[Gwyddelod|Wyddelod]] i Gymru a gorllewin [[yr Alban]].
Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr [[8g]], pan godwyd [[Clawdd Offa]], roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r [[Oesoedd Canol]] wedi dechrau. Yn sgil y goresgyniad [[Normaniaid|Normanaidd]] newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefig galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "[[Oes y Tywysogion]]". Yn [[yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru]] ar ôl cwymp [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'i frawd [[Dafydd ap Gruffudd]], cafwyd cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd [[Owain Glyndŵr]] wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd [[Harri Tudur]] [[Brwydr Bosworth|Frwydr Bosworth]] gan sefydlu [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].
Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
Llinell 17:
==Oes y Seintiau yng Nghymru==
{{Prif|Oes y Seintiau yng Nghymru}}
Mae cloddio archeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi mwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle'r oedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal [[Y Môr Canoldir|Môr y Canoldir]], [[gwydr]] o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir fod Dinas Powys yn llys pennaeth neu frenin yn y cyfnod yma. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain mewn [[Lladin]], ond yn y de-orllewin a [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]] mae'r arysgrifau mewn [[Ogam]] neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol [[Teyrnas Dyfed]] o dras Wyddelig.
Daeth [[Cristnogaeth]] Cymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis [[Caerwent]] a [[Caerleon|Chaerleon]] yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd [[Sant Dyfrig]] yn un o'r arweinwyr cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd. Ymhlith y seintiau enwocaf mae [[Dewi Sant]], [[Teilo]], [[Illtud]], [[Cadog]] a [[Deiniol]]. Roedd cysylltiadau agos rhwng Cymru ag [[Iwerddon]] a [[Llydaw]].
Llinell 30:
Ar ddechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig [[Teyrnas Powys|Powys]], yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr [[Eingl-Sacsoniaid]], yn enwedig teyrnas [[Mercia]]. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol, gan gynnwys yr hen ganolfan, [[Pengwern]]. Efallai fod adeiladu [[Clawdd Offa]], yn draddodiadol gan [[Offa, brenin Mercia]] yn yr [[8g]], yn dynodi ffin wedi ei chytuno.
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd [[Rhodri Mawr]], yn wreiddiol yn frenin [[Teyrnas Gwynedd]], a daeth yn frenin Powys a [[Ceredigion]] hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, [[Hywel Dda]], ffurfio teyrnas [[Deheubarth]] trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn [[942]] roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio [[Cyfraith Hywel]] trwy alw cyfarfod yn [[Hendy-gwyn ar Daf]]. Pan fu ef farw yn [[950]] gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinlin draddodiadol.
Erbyn hyn roedd y Llychlynwyr yn ymosod at Gymru, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o [[Ynys Môn]] yn [[987]], a thalodd brenin Gwynedd, [[Maredudd ab Owain]], swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed.
[[Gruffydd ap Llywelyn]] oedd y teyrn nesaf i allu uno'r teyrnasodd Cymreig. Brenin Gwynedd ydoedd yn wreiddiol, ond erbyn [[1055]] roedd wedi gwneud ei hun yn frenin bron y cyfan o Gymru ac wedi cipio rhannau o Loegr ger y ffin. Yn [[1063]] gorchfygwyd ef gan [[Harold Godwinson]] a'i ladd gan ei ŵyr ei hun. Rhannwyd ei deyrnas unwaith eto, gyda [[Bleddyn ap Cynfyn]] a'i frawd [[Rhiwallon ap Cynfyn|Rhiwallon]] yn dod yn frenhinoedd Gwynedd a Phowys.
Llinell 77:
[[Delwedd:Select Sketches - Menai Bridge 2.jpg|200px|bawd|Agorwyd [[Pont y Borth]] ar [[Afon Menai]] yn [[1826]] (plât Tsieineaidd o'r 1840au)]]
Roedd y [[Chwyldro Diwydiannol]] ar gynnydd a thirwedd Cymru'n newid. Roedd gwaith ar gael mewn trefi fel [[Bersham]] a [[Brymbo]] yn y Gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd a threfi [[De Cymru]]. Roedd angen cynhyrchu [[haearn]] i adeiladu'r peiriannau newydd oedd yn cael eu hadeiladu. Roedd gan Gymru ddigon o haearn a glo hefyd i'r ffwrneisi i weithio'r haearn hwnnw. Felly roedd poblogaeth Cymru ar gerdded o'r ardaloedd gwledig i'r trefi diwydiannol fel [[Merthyr Tudful]] a'r [[Y Rhondda|Rhondda]] a oedd yn tyfu yn gyflym. Yn y gogledd agorwyd nifer o [[Diwydiant llechi Cymru|chwareli llechi]] ac [[Chwareli ithfaen Cymru|ithfaen]], mawr a bychain, a thyfodd canolfannau fel [[Bethesda]], [[Llanberis]] a [[Blaenau Ffestiniog]] yn drefi prysur a ddeuai i chwarae rhan bwysig yn hanes economaidd a diwylliannol y genedl.
Fel bod y bobl yn gallu tramwyo ac i gludo'r glo a'r haearn roedd angen adeiladu [[ffordd|ffyrdd]], [[camlas|camlesi]] a [[rheilffordd|rheilffyrdd]].
Llinell 85:
==Yr Ugeinfed Ganrif==
{{Prif|Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru}}
Gellid dadlau bod yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes.
[[Delwedd:Triban Plaid Cymru.png|250px|bawd|Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] ym [[1925]]]]
Llinell 99:
{{Prif|Yr Unfed Ganrif ar Hugain yng Nghymru}}
[[Delwedd:Senedd.jpg|200px|bawd|Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]]
Dangosodd [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Cyfrifiad 2001]] gynydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gyda 21% o'r boblogaeth 3 oed a hŷn yn gallu'r iaith, i gymharu â 18.7% ym 1991 ac 19.0% ym 1981. Mae hyn yn gyferbyniad i'r patrwm o leihad yn nifer y siaradwyr trwy gydol yr [[20g]].<ref>[http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=447 Results of the 2001 Census from www.statistics.gov.uk]</ref>
Bu nifer o ddatblygiadau o nod yn y brifddinas wedi agoriad [[Stadiwm y Mileniwm]] ym 1999,<ref>[http://www.millenniumstadium.com/3473_3514.php Millennium Stadium website]</ref> megis agoriad [[Canolfan y Mileniwm]] ym 2004 fel canolfan ar gyfer cynnal digwyddiadau diwylliannol. Cwblhawyd adeilad newydd Senedd [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym mis Chwefror 2006 ac agorwyd yn swyddogol ar [[Dydd Gŵyl Dewi|Ddydd Gŵyl Dewi]]'r un flwyddyn.<ref>[http://www.publicinformation.wales.gov.uk/scripts/viewnews.asp?NewsID=581 The New National Assembly for Wales Senedd opened on St David’s Day]</ref>
Llinell 116:
{{Cymru}}
{{Hanes Ewrop}}
[[Categori:Hanes Cymru| ]]
|