Daily Post: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Papur newydd]] dyddiol rhanbarthol yn yr iaith [[Saesneg]] ar gyfer [[Gogledd Cymru]] yw'r '''Daily Post'''. Fe'i argraffir yn ei bencadlys yng [[Cyffordd Llandudno|Nghyffordd Llandudno]]. Rob Irvine yw'r golygydd presennol. Mae'r papur yn rhan o grŵp [[Trinity Mirror]].
 
DechreoddDechreuodd y ''Daily Post'' Cymreig fel argraffiad o'r ''Liverpool Daily Post'' ar gyfer gogledd Cymru, ond mae'n bapur ar wahân erbyn heddiw. Ar un adeg galwai'r papur ei hun yn "''the Paper for Wales''", gan gystadlu a'r ''[[Western Mail]]'' fel papur newydd dyddiol Cymreig, ond bellach ceir "''North Wales' best selling newspaper''" ar y mast ac mae'r papur yn canolbwyntio ar newyddion y gogledd, er bod adrannau ar gyfer newyddion cenedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol yn ogystal.
 
Mae gan y papur draddodiad o gael colofnwyr dadleuol a bywiog. Yn y gorffennol ysgrifennai Iorweth Roberts ac [[Ivor Wynne Jones]] iddo. Heddiw mae'n adnabyddus am dudalennau David Banks ac Ian Parri, ill dau yn eithaf parod i godi gwrychyn ambell ddarllenydd.