Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iwerddon"

Lleihawyd o 8 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
clean up
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g (2), 5ed ganrif5g using AWB)
B (clean up)
[[Delwedd:Ireland.A2003004.jpg|bawd|250px|Llun lloeren]]
 
Mae '''Iwerddon''' ([[Gwyddeleg]]: ''Éire'', a [[Saesneg]]: ''Ireland'') yn un o'r gwledydd Celtaidd yng ngogledd orllewin Ewrop ac yn ynys ym [[Môr Iwerydd]]. Gwyddeleg, iaith Geltaidd yn perthyn i [[Gaeleg|Aeleg]] a [[Manaweg]], ydyw'r iaith gynhenid ond [[Saesneg]] a siaredir gan y mwyafrif ers y [[19g]]. Mae dwy uned wleidyddol yn rhannu'r ynys: [[Gweriniaeth Iwerddon]] a [[Gogledd Iwerddon]] (darn o'r [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]]).
 
==Hanes==
Yn y cyfnod cynnar, nid oedd Iwerddon yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag [[Ewrop]]. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod [[Neolithig]], gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis [[Newgrange]].
 
Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y [[5g]], gyda [[Sant Padrig]] yn arbennig o amlwg. Erbyn tua [[600]] roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua [[800]] bu llawer o ymosodiadau gan y [[Llychlynwyr]], a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd [[Dulyn]] yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng "Gwŷr Dulyn" a [[Teyrnas Gwynedd|brenhinoedd Gwynedd]] erbyn yr [[Oesoedd Canol]]. Ganwyd [[Gruffudd ap Cynan]] yn Nulyn a'i fagu yn Swords gerllaw. Yr oedd yn fab i [[Cynan ap Iago]] a [[Ragnell]] ferch [[Olaf Arnaid]], brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon. Yn [[1169]] ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi [[Normaniaid|Normanaidd]], llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd [[Cymru]], megis eu harweinydd [[Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro|Richard de Clare, 2il Iarll Penfro]], a elwid yn ''Strongbow''. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond [[Y Rhanbarth Seisnig]] yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn ôl llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan [[Oliver Cromwell]] yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon.
 
Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu gwrthryfel yn [[1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn [[1801]], gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, [[Daniel O'Connell]], ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "[[Newyn Mawr Iwerddon|Y Newyn Mawr]]" ([[Gwyddeleg]]: ''An Gorta Mór''). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn [[1911]]. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.
 
Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y [[19g]]. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion [[Charles Stewart Parnell]]. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig [[William Ewart Gladstone]] ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn [[1910]] roedd y [[Plaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] dan [[John Redmond]] mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1914]] derfyn ar y mesur am y tro.
 
Yn [[1916]] bu gwrthryfel arall, [[Gwrthryfel y Pasg]], gydag ymladd ffyrnig yn ninas [[Dulyn]] dros wythnos y [[Pasg]]. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys [[Padraig Pearse]] a [[James Connolly]]. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|Ethloliad Cyffredinol 1918]], collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i [[Sinn Féin]], oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], yn eu plith [[Éamon de Valera]] a [[Michael Collins]]. Datblygodd rhyfel rhwng [[Byddin Weriniaethol Iwerddon]] (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans". Yn [[1922]] arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, [[Arthur Griffith]] a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan [[David Lloyd George]]. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu [[Gweriniaeth Iwerddon]], ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
 
==Daearyddiaeth==
{{prif|Daearyddiaeth Iwerddon}}
 
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw [[Corrán Tuathail]] ([[Saesneg]]: ''Carrauntoohil''), ym mynyddoedd [[Macgillycuddy’s Reeks]] yn [[Swydd Kerry]] yn y de-orllewin, sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ymhlith mynyddoedd eraill yr ynys mae [[Mynyddoedd Wicklow]]. Ceir nifer sylweddol o [[ynys]]oedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
 
Yr afon fwyaf ar yr ynys yw [[Afon Shannon]], sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag [[aber]] sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i [[Môr Iwerydd|Fôr Iwerydd]] ychydig i'r de o ddinas [[Limerick]]. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint; [[Lough Neagh]] yn y gogledd yw'r mwyaf; [[Loch Coiribe]] yn y gorllewin yw'r ail o ran maint, a llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon. Trydydd llyn Iwerddon o ran maint yw [[Loch Deirgeirt]] (Lough Derg) ar Afon Shannon.
 
{{eginyn Iwerddon}}
 
 
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}
359,040

golygiad