Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
== Y Crwth yng Nghymru ==
 
Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato yn y [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]]: ''pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall'' (''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'', c. [[1200]]). Ymddengys fod [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd yr uchelwyr]] yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y [[PîbPibau Cymreig|pibau]] a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan [[Lewys Glyn Cothi]] (fl. [[1420]]-[[1489]]): ''Pob ddau y glêr a ddeuyn', / pob dri fry i dŷ pob dyn; / wrth y drws un â'i grwth drwg, / a baw arall â'i berrwg'' (''Gwaith Lewys Glyn Cothi'', 63.25-8). Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r [[telyn|delyn]]. Roedd yn boblogaidd iawn ym [[Môn]] yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]], fel y tystia marwnad [[Huw Pennant]] (fl. [[1565]]-[[1619]]) i'r crythor [[Siôn Alaw]]: ''Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd''. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].
 
== Ffynonellau ==