Llwythau Celtaidd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:CymruLlwythi.PNG|dde|bawd|250px|Llwythau Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.]]
 
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd gennym ynghylch '''Llwythau Celtaidd Cymru''' yn deillio o’r cyfnod wedi i’r Rhufeiniaid gyrraedd i’r diriogaeth sy’n ffurfio [[Cymru]] fodern tua 48 O.C. Ni wyddom pa mor hir yr oedd y llwythau hyn wedi bodoli cyn y cyfnod Rhufeinig.
 
Ymddengys i’r Rhufeiniaid goncro rhai o’r llwythau, megis y [[Demetae]] a’r [[Deceangli]] heb lawer o drafferth, ond bu’r [[Silwriaid]] a’r [[Ordoficiaid]] yn brwydro’n hir i amddiffyn eu hanibyniaeth, gan ennill nifer o fuddugoliaethau dros filwyr Rhufeinig. Cymerodd 30 mlynedd cyn i’r llywodraethwr [[Agricola]] orchfygu’r Ordoficiaid yn derfynol yn [[78]] a dwyn y diriogaeth gyfan dan lywodraeth Rhufain.