Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ostorius Scapula"

Lleihawyd o 8 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q515834 (translate me))
B (→‎top: clean up)
Roedd '''Publius Ostorius Scapula''' (bu farw [[52]]) yn weinyddwr a chadfridog [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] fu'n [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr Prydain]] o [[47]] hyd ei farwolaeth. Ef fu'n gyfrifol am orchfygu [[Caradog]] a'i gymeryd yn garcharor.
 
Credir bod Publius Ostorius Scapula yn fab Quintus Ostorius Scapula, cyd-bennaeth cyntaf [[Gard y Praetoriwm]] a apwyntiwyd gan yr ymerawdwr [[Augustus]] ac yn ddiweddarach llywodraethwr [[Aegyptus|Yr Aifft]].
 
Nid oes gwybodaeth am ei yrfa gynnar ond yng ngaeaf [[47]] apwyntiwyd ef yn ail lywodraethwr Prydain gan yr ymerawdwr [[Claudius]], i gymeryd lle [[Aulus Plautius]]. Yr oedd de-ddwyrain yr ynys eisoes wedi ei choncro, ond ymosododd rhai o'r llwythau ar ffiniau'r dalaith Rufeinig, gan gredu na fyddai'r llywodraethwr newydd yn barod i arwain ymgyrch mor hwyr yn y flwyddyn.
 
Ymosododd Ostorius ar yr [[Iceni]], oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n [[Norfolk]] heddiw, oedd wedi bod mewn cynghrair a'r Rhufeiniaid ond yna wedi gwrthryfela. Gorchfygwyd yr Iceni, ond ni ymgorfforwyd eu tiriogaeth yn y dalaith Rufeinig yr adeg yma.
 
Wedi concro'r llwythau oedd wedi codi mewn gwrthryfel, dechreuodd Ostorius ymgyrchu tu hwnt i ffiniau'r dalaith. Ymosododd ar y [[Deceangli]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] yn [[48]], ond bu raid iddo ddychwelyd tua'r dwyrain pan fu gwrthryfel ymysg y [[Brigantes]].
 
Wedi i'w lwyth ef ei hun, y [[Catuvellauni]], gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid yr oedd [[Caradog]] wedi symud i diriogaeth y [[Silwriaid]] yn ne-ddwyrain Cymru, ac wedi ei dderbyn fel eu harweinydd mewn rhyfel. Dan bwysau gan y Rhufeiniaid, aeth Caradog tua'r gogledd i diriogaeth yr [[Ordoficiaid]], ond yn [[51]] gorchfygwyd ef gan Ostorius mewn brwydr, efallai ar lannau [[Afon Hafren]].
 
Parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid, a dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymeryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.
 
Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn [[52]] heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth gallasant orchfygu lleng oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens cyn i'r llywodraethwr newydd, [[Aulus Didius Gallus]], gyrraedd. Dim ond 25 mlynedd yn ddiweddarach, dan [[Sextus Julius Frontinus]], y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.
 
==Euroswydd==
450,625

golygiad