Crug crwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ffynonellau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes yr Efydd]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair [[Cymraeg]] 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. ''Cruc'' ydy'r gair yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg|Hen Lydaweg]] a ''cruach'' yn yr [[Hen Wyddeleg]]. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau [[Lladin]] ar hen enwau lleoedd [[Brythoneg]] megis ''Pennocrucium'', sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "''crick''" fel yn y gair "''Crick''-howell". Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''.
 
Mae'r [[carnedd gron|garnedd gron]] yn wahanol i grug crwn. Cerrig yn unig yw carnedd - treuliwyd y pridd gan amser.
 
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn [[siambr gladdu]]. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel [[carnedd]]. Yng [[Pedair Cainc y Mabinogi|Nghainc Gyntaf y Mabinogi]] (testun ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', 14eg ganrif) ceir hanes [[Pwyll]] yn gweld [[Rhiannon]]: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." <ref>''[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]'', Cyfrol 1, tudalen 613.</ref>