Samnium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Italy 400bC es.svg|bawd||260px|dde|Yr Eidal tua 400 CC]]
 
Rhanbarth hanesyddol yn [[yr Eidal]] yn rhan ddeheuol canolbarth mynyddoedd yr [[Apenninau]] oedd '''Samnium''' ([[Osceg]]: '''Safinim'''; [[Eidaleg]]: '''Sannio'''). Yma y trigai'r '''Samnitiaid''', grŵp ethnig o lwythau Sabelaidd a reolai'r ardal rhwng tua 600 CC a thua [[290 CC]]. Roedd Samnium yn ffinio ar [[Latium]] yn y gogledd, ar [[Lucania]] yn y de, ar [[Campania]] yn y gorllewin ac ar [[Puglia|Apulia]] yn y dwyrain. Y prif ddinasoedd oedd Bovaiamom, heddiw [[Bojano]]. a [[Malventum]], yn ddiweddarach [[Beneventum]], a heddiw [[Benevento]]).
 
Roedd y Samnitiaid wedi eu rhannu i o leiaf bedwar llwyth, y [[Pentri]], gyda'u prifddinas yn Bovianum, y [[Caraceni (llwyth)|Caraceni]], y [[Caudini]] a'r [[Hirpini]]. Bovianum oedd prifddinas y gynghrair.
 
Ymladdodd y Samnitiaid nifer o ryfeloedd yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain]]. Enillasant frwydr bwysig yn erbyn y Rhufeiniaid yn [[321 CC]], ond gorchfygwyd hwy yn 290 CC. Ymladdasant yn erbyn Rhyfain eto yn [[Rhyfel y Cyngheiriaid]], ond gorchfygwyd hwy gan [[Lucius Cornelius Sulla]] yn [[82 CC]], gyda lladdfa fawr.