Theodoric Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Ganed Theodoric yn 454 ar lannau'r [[Neusiedler See]] ger [[Carnuntum]], yn fab i [[Theodemir]], brenin yr Ostrogothiaid. Pan oedd yn fachgen gyrrwyd ef i [[Caergystennin|Gaergystennin]] fel gwystl, wedi i'r Ostrogothiaid wneud cytundeb a'r [[Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]], [[Leo I (ymerawdwr)|Leo]]. Bu'n byw yno am flynyddoedd, gan gael ei benodi'n ''[[magister militum]]'' (Meistr y Milwyr) yn 483, ac yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn 484. Dychwelodd at yr Ostrogothiaid yn fuan wedyn, a daeth yn frenin arnynt yn 488.
 
Gwnaeth Theodoric gytundeb a'r Ymerawdwr Bysantaidd [[Zeno (ymerawdwr)|Zeno]] i ymosod ar yr Eidal, lle roedd [[Odoacer]] yn frenin. Enillodd Theodoric fuddugoliaethau ym mrwydrau Isonzo (489), Verona (489) ac Adda (490), ac yn 493 cipiodd ddinas [[Ravenna]]. Ildiodd Odoacer, a lladdwyd ef gan Theodoric yn bersonol.
 
Mewn theori roedd Theodoric yn rheoli'r Eidal ar ran yr Ymerodraeth Fysantaidd, ond yn ymarferol roedd yn frenin annibynnol. Gwnaeth gynghrair a'r [[Ffranciaid]] a phriododd Audofleda, chwaer [[Clovis I]]. Yn 511 daeth yn reolwr teyrnas y Fisigothiaid yn [[Sbaen]] a de [[Gâl]], lle roedd ymladd wedi bod rhwng hawlwyr yr orsedd ers i Alaric II gael ei ladd ym mrwydr Vouillé yn [[507]]. Diorseddodd Theodoric yr hawliwr Gesaleic, a gwnaeth ei ŵyr ei hun, Amalaric, mab Alaric a Tindigota, merch Theodoric, yn frenin. Theodoric fu'n rheoli'r deyrnas ar ran Amalaric hyd ei farwolaeth, pan ddaeth Amalaric yn frenin annibynnol.
 
Roedd Theodoric yn parchu arferion a diwylliant Rhufain, a bu nifer o wŷr amlwg yn ei wasanaethu, er enghraifft bu'r hanesydd [[Cassiodorus]] yn weinidog ac ymghynghorwr iddo. Tua 520 penododd yr athronydd [[Anicius Manlius Severinus Boethius|Boethius]] yn ''magister officiorum,'', pennaeth y llywodraeth. Yn ddiweddarach collodd Boethius ymddiried Theodoric, oedd yn ei amau o gynllwynio gyda'r Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus, a dienyddiwyd ef yn 525. Roedd Theodoric yn dilyn y fersiwn [[Ariaeth|Ariaidd]] o Gristionogaeth, ac roedd hyn yn creu tyndra rhyngddo ef a dilynwyr uniongrededd Catholig [[Cyngor Nicea]].
 
Bu Theodoric farw yn Ravenna yn 526, a chladdwyd ef yn y mawsolewm sy'n un o adeiladau mwyaf nodedig y ddinas honno. Dilynwyd ef gan ŵyr, Athalaric, gyda'i fam Amalasuntha yn rheoli drosto o 526 hyd 534. Collodd teyrnas yr Ostrogothiaid ei nerth yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Theodoric, a gyrrodd [[Justinianus I]] y cadfridog [[Belisarius]] i ymgyrchu yn yr Eidal. Erbyn 553 roedd teyrnasiad yr Ostrogothiaid yn yr Eidal ar ben.
 
Mewn llenyddiaeth, mae'r cymeriad [[Dietrich von Bern]] yn y saga Almaenig ''Dietrichepik'' a'r [[Nibelungenlied]] wedi ei seilio ar Theodoric.
 
[[Categori:Hanes yr Eidal]]