Rhufain hynafol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 5ed ganrif5g (2), 2il ganrif CC2 CC, 3edd ganrif CC3 CC using AWB
B clean up
Llinell 6:
]]
 
Datblygodd '''Rhufain hynafol''' o fod yn bentref amaethyddol ger glan [[Afon Tiber]] yng nghanolbarth [[yr Eidal]] i fod yn ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r [[Alban]] i [[Gogledd Affrica|Ogledd Affrica]] ac o [[Sbaen]] i [[Mesopotamia]]. O'r [[5g]] ymlaen, dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio, ac ymrannodd [[Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin]] yn nifer o deyrnasoedd annibynnol. Parhaodd [[Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain]], a reolid o [[Caergystennin|Gaergystennin]] am ganrifoedd lawer ar ôl hyn, dan yr enw [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd]].
 
== Hanes ==
Llinell 17:
[[Delwedd:She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg|bawd|chwith|150px|Romulus a Remus yn cael eu magu gan y fleiddiast.]]
 
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar [[21 Ebrill]], [[753 CC]] gan [[Romulus a Remus]], disgynyddion [[Aeneas]] o [[Caerdroia|Gaerdroia]]. Roedd brenin [[Alba Longa]] wedi gorchymyn eu bod i'w lladd, ond achubwyd hwy gan [[Blaidd|fleiddiast]].
 
Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau buchain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf, [[Lucius Tarquinius Superbus]], gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua [[509 CC]].
Llinell 24:
:''Prif erthygl: [[Gweriniaeth Rhufain]]''
 
Wedi diorseddu Tarquinius Superbus, sefydlwyd system weriniaethol, gyda dau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
 
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr [[Etrwsciaid]]. Yn ail hanner y [[3 CC]], dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas [[Carthago]] yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd [[Hannibal]] ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan [[Scipio Africanus]]. wedi gorchfygu [[Macedonia]] yn yr [[2 CC]], Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].
Llinell 35:
Yr Ymerodraeth Rufeinig oedd y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd [[y Weriniaeth Rufeinig]] ac a barhaodd hyd y [[5g]] OC yn y gorllewin, ac fel [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]] hyd [[1453]] yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo [[Senedd Rhufain]], llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerodron, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio [[Iŵl Cesar]] fel ''dictator'' am oes yn [[44 CC]], buddugoliaeth etifedd Cesar, [[Augustus|Octavianus]] ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]] yn [[31 CC]], a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus ([[16 Ionawr]], [[27 CC]]).
 
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o [[Sbaen]] yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn [[Carthago]], a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad [[Trajan]] tua [[177]]. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwar) o dir.
 
Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau yr ymerawdwr [[Diocletian]]. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn [[476]] pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, [[Romulus Augustus]]. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaerniaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanead sy'n parhau hyd heddiw.
 
{{Rhufain hynafol}}
 
 
 
 
[[Categori:Yr Henfyd]]