Gweriniaeth Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: y ganrif 1af CC1 CC, 2il ganrif CC2 CC, 3edd ganrif CC3 CC using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
'''Gweriniaeth Rhufain''' oedd y cyfnod yn hanes [[Rhufain hynafol]] rhwng diorseddu'r brenin olaf tua [[509 CC]] a sefydlu [[yr Ymerodraeth Rufeinig]].
 
Yn y cyfnod cynnar, [[Teyrnas Rhufain|brenhinoedd]] oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, [[Tarquinius Superbus]], tua [[509 CC]]. Dan y drefn newydd, roedd dau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
 
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr [[Etrwsciaid]]. Yn ail hanner y [[3 CC]], dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas [[Carthago]] yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd [[Hannibal]] ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan [[Scipio Africanus]].
 
Yng nganol yr [[2 CC]], bu rhyfel eto yn erbyn Carthago. Yn [[146 CC]] cipiwyd dinas Carthago gan fyddin dan [[Scipio Aemilianus]], ac ar orchymyn [[Senedd Rhufain|y senedd]], dinistriwyd hi yn llwyr. Yr un flwyddyn gorchfygodd byddin Rufeinig arall dan [[Lucius Mummius]] fyddin y [[Cynghrair Achaeaidd]] ym [[Brwydr Corinth (146 CC)|Mrwydr Corinth]], a daeth [[Gwlad Groeg|Groeg]] yn dalaith Rufeinig. Yn dilyn y brwydrau hyn, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].