Gaius Cassius Longinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 33 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q207370 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei ieuenctid. Yn [[53 CC]] roedd yn dal swydd ''[[quaestor]]'', a chymerodd ran yn ymgyrch [[Marcus Licinius Crassus|Crassus]] yn erbyn y [[Parthia]]id. Pan orchfygwyd Crassus ger Carrhae, llwyddodd Cassius o achub rhan o'r fyddin, ac yna amddiffyn [[Syria]] rhag y Parthiaid. Yn [[49 CC]] a [[48 CC]], roedd yn llyngesydd ar ran o lynges [[Pompeius]]. Wedi [[Brwydr Pharsalus]], rhoddodd Iŵl Cesar bardwn iddo.
 
Roedd yn briod a [[Iunia Tertia]], chwaer [[Marcus Junius Brutus]]. Roedd ganddo ran amlwg gyda Brurus yn llofruddiaeth Cesar ar [[15 Mawrth]] [[44 CC]]. Yn fuan wedyn, gadawodd Rufain am Syria, lle gorchfygodd [[Dolabella]] mewn brwydr ger [[Laodicea (Syria)|Laodicea]].
 
Yn [[42 CC]], croesodd ef a Brutus i [[Thrace]] i wynebu [[Marcus Antonius]] a [[Augustus|Gaius Octavianus]] (yr ymerawdwr Augustus yn ddiweddarach. Ym [[Brwydr Philippi|Mrwydr Gyntaf Philippi]], gorchfygwyd y rhan o'r fyddin yr oedd Cassius yn gyfrifol amdani gan fyddin Antonius, a lladdodd Cassius ei hun.