Lucius Sergius Catilina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Ganed ef i hen deulu uchelwrol oedd wedi colli dylanwad yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn un o gefnogwyr [[Lucius Cornelius Sulla|Sulla]], ac yn arweinydd carfan o wŷr ieuanc. Ymladdodd yn [[Rhyfel y Cyngheiriaid]] yn [[98 CC]] - [[88 CC]], gan wasanaethu dan [[Gnaeus Pompeius Strabo]] yn [[89 CC]]. Gwasanaethodd fel [[praetor]] yn [[68 CC]], yna'r flwyddyn ddilynol fel ''propraetor'' yn Affrica.
 
Methodd y cyfle i ymgeisio am swydd [[Conswl Rhufeinig|Conswl]] yn [[66 CC]], ac yn ôl Sallustius cynllwyniodd i lofruddio'r ddau gonswl yn [[65 CC]], ond methodd y cynllun. Yn [[64 CC]], ymgeisiodd am swydd Conswl eto ar gyfer [[63 CC]], ond yn ôl Cicero, roedd hefyd yn cynllwynio i gipio grym trwy drais. Cafodd Cicero wybod am y cynlluniau ar noson [[27 Hydref]], a chondemniodd Catilina mewn araith yn [[Senedd Rhufain|y Senedd]]. Gorfodwyd Catilina i ffoi i [[Etruria]].
 
Ar [[3 Rhagfyr]], gorchymynodd Cicero, fel Conswl, gymeryd nifer o gefnogwyr amlwg Catilina i'r ddalfa. Wedi trafodaeth yn y Senedd, condemniwyd hwy i farwolaeth ar [[5 Rhagfyr]]. Roedd Catilina wedi codi byddin yn Etruria, ond gorchfygwyd ef gan fyddin dan [[Gaius Antonius Hybrida]] yn gynnar yn 62, a lladdwyd Catilina yn y frwydr.