Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhyfel y Cynghreiriaid"

Lleihawyd o 1 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: clean up, replaced: |ewin bawd| → |bawd| using AWB)
B (→‎top: clean up)
 
Ers i Rufaibn ddechrau ymestyn ei grym dros yr Eidal, roedd wedi gwneud cytundebau ar wahân a gwahanol ''civitates'', gan eu hystyried fel cynghreiriaid (''socii''). Roedd gan y gynghreiriaid fesur helaeth o hunanlywodraeth, ond roedd rhaid iddynt gyflenwi milwyr i fyddinoedd Rhufain. Tyfodd anfodlonrwydd ar y drefn yma ymhlith y cynghreiriaid, a ddymunai ddod yn ddinasyddion Rhufeinig. Yn [[91 CC]], rhoddodd y ''[[tribunus plebis]]'' [[Marcus Livius Drusus minor]] gynnig ymlaen i roi dinasyddiaeth Rufeinig i'r ''socii'', ond llofruddiwyd ef gan wrthwynebwyr y syniad cyn i'r cais lwyddo. Gwrthryfelodd y ''socii'', gan greu cynghrair gyda [[Corfinium]] fel prifddinas.
 
Bu ymladd caled, ond llwyddodd Rhufain i sicrhau heddwch trwy ymestyn dinasyddiaeth Rhufeinig yn raddol, yn gyntaf i'r cynghreiriaid oedd wedi aros yn deyrngar i Rufain trwy'r ''[[Lex Iulia]]'' yn [[90 CC]]. Yn [[89 CC]], rhoddodd y ''[[Lex Plautia Papiria]]'' ddinasyddiaeth Rufeinig i bawb yn yr Eidal i'r de o [[afon Po]], ar yr amod eu bod yn rhoi gorau i'r ymladd o fewn dau fis. Rhoddodd y ''[[Lex Pompeia]] ddinasyddiaeth Ladin i bawb yn yr Eidal i'r gogledd o afon Po.
 
Llwyddodd hyn i roi diwedd ar yr ymladd yng ngogledd yr Eidal, ond parhaodd y [[Samnitiaid]] i ymladd hyd [[82 CC]]. Yn y diwedd, gorchfygwyd hwy gan [[Lucius Cornelius Sulla]].
417,732

golygiad