Spartacus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Spartacus statue by Denis Foyatier.jpg|bawd|dde|170px|Cerfddelw o Spartacus yn amgueddfa'r [[Louvre]].]]
 
Arweinydd byddin o [[caethwasanaeth|gaethweision]] yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain|Rhufain]] oedd '''Spartacus''' (bu farw [[71 CC]]).
 
Nid oes sicrwydd am hanes cynnar Spartacus; dywed rhai haneswyr ei fod wedi ei gymeryd yn garcharor wrth ymladd yn erbyn Rhufain, eraill ei fod wedi bod yn filwr ym myddin Rhufain, wedi dianc ac yna wedi cael ei ddal. Dywedir ei fod yn frodor o [[Thrace]]. Yn [[73 CC]] roedd mewn ysgol hyfforddi [[gladiator]] yn perthyn i [[Lentulus Batiatus]] gerllaw [[Napoli]]. Y flwyddyn honno, llwyddodd i ddianc gyda 70 neu 80 arall. Ffoesant i [[Mynydd Vesuvius|Fynydd Vesuvius]], ac yn raddol tyfodd ei fyddin nes cynnwys tua 70,000 o gaethweision wedi dianc.
Llinell 7:
Llwyddodd y fyddin o gaethweision i orchfygu dwy [[Lleng Rufeinig|leng Rufeinig]] a yrrwyd yn eu herbyn. Yng ngwanwyn [[72 CC]] symudodd y fyddin tua'r gogledd, gan orchfygu tair lleng Rhufeinig arall. Ymddengys mai cynllun gwreiddiol Spartacus oedd croesi'r [[Alpau]] i adael yr Eidal, ond yn y diwedd troi yn ôl tua'r de wnaeth y rhan fwyaf o'r fyddin. Gorchfygasant ddwy leng arall dan [[Marcus Licinius Crassus]].
 
Wedi cyrraedd de'r Eidal, gwnaeth Spartacus gytundeb a [[Môr-ladrad|môrladron]] o [[Cilicia]] i fynd a'i fyddin i [[Sicilia]] yn eu llongau, ond ni chadwodd y môrladron at y cytundeb. Erbyn hyn roedd gan Crassus wyth lleng, a cheisiodd gornelu byddin Spartacus yn ne yr Eidal. Gallodd Spartacus ymladd ei ffordd trwy linellau Crassus a symud i gyfeiriad Brundisium ([[Brindisi]] heddiw). Llwyddodd Crassus i'w ddal, a lladdwyd Spartacus yn y frwydr.
 
Gorchfygwyd y caethweision yn llwyr, a croeshoeliodd Crassus tua 6,000 ohonynt ar hyd y ''[[Via Appia]]'' rhwng [[Capua]] a [[Rhufain]].
 
Mae Spartacus wedi bod yn arwr nifer o nofelau a ffilmiau; yn arbennig y ffilm enwog ''Spartacus'' a wnaed gan [[Stanley Kubrick]] yn [[1960]], pan gymerwyd rhan Spartacus gan [[Kirk Douglas]], gyda [[Laurence Olivier]] fel Crassus.