Gwener (duwies): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
'''Gwener''' (o'r [[Lladin]] ''Veneris'', "yn perthyn i Venus") yw'r ffurf Gymraeg o'r enw "Venus", a oedd yn dduwies serch a phrydferthwch [[mytholeg Rhufeinig]]. Rhoddodd ei henw i [[Gwener (planed)|Gwener]], yr ail blaned oddi wrth yr [[Haul]], ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ei hôl, ''Veneris dies'', a ddaeth i'r Gymraeg fel Dydd Gwener. Mae'r dduwies, fel llawer o dduwiau [[Rhufain]], yn tarddu o [[Mytholeg Groeg|fytholeg Groeg]], lle yr oedd yn ymddangos dan yr enw [[Aphrodite]].
 
Yn ôl fersiynau gwahanol o'r chwedl cafodd Gwener ei geni yn y môr ger naill ai [[Cyprus]] neu ynys [[Cythera]]. Caiff Gwener ei phortreadu'n aml gan y chwedlau fel cymeriad balch a byr ei thymer. Roedd yn anffyddlon yn gyson i'w gŵr [[Fwlcan]] (Hephaestos) a chafodd berthnas gyda [[Mawrth (duw)|Mawrth]], duw rhyfela, [[Adonis]] ac [[Anchises]] (yn ddiweddarach, byddai'n cenhedlu'r arwr [[Aeneas]] gyda'r dyn meidrol hwn). Roedd Gwener hefyd yn fam i [[Ciwpid|Ciwpid]], duw serch. Yn yr ''[[Iliad]]'', Gwener oedd yn rhannol gyfrifol am [[Rhyfel Caerdroea|Ryfel Caerdroea]] hefyd am iddi gynnig [[Elen o Gaerdroea]] yn wraig i [[Paris (chwedloniaeth)|Baris]].
 
Yn Rhufain, roedd teulu'r Julii yn haeru eu bod yn ddisgynyddion i'r dduwies Gwener, trwy Aeneas. Cyflwynodd yr enwocaf o'r teulu yma, [[Iŵl Cesar]], gwlt ''Venus Genetrix'', fersiwn mamol a theuluol o'r dduwies. Un o'r duwiesau tebyg iddi mewn chwdloniaeth Geltaidd oedd [[Modron]].