Mithras: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 4edd ganrif4g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 2:
[[Delwedd:Ostia Antica Mithraeum.jpg|bawd|250px|Mithraeum yn [[Ostia]] yn yr Eidal]]
 
Duw a addolid yn [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] o'r [[Y ganrif 1af|ganrif gyntaf]] O.C. hyd y [[4g]] oedd '''Mithras'''. Ceir tystiolaeth o bresenoldeb crefydd neu gwlt Mithras o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth, ac ymddengys ei bod yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr. Nid oes sicrwydd am ddechreuad y grefydd, ond ymddengys iddi gyrraedd yr ymerodraeth o'r dwyrain, efallai o [[Asia Leiaf]]. Parhaodd hyd nes i'r ymerawdwr [[Theodosius I]] wahardd pob crefydd heblaw [[Cristnogaeth]] yn [[391]].
 
Efallai i gwlt Mithras ddechrau yn [[Iran]] a'r ardaloedd cyfagos, lle ceir enw Mithras mewn cynghrair rhwng yr [[Hethiaid]] a [[Mitanni]] tua 1400 CC. Ceir cyfeiriad aro yn y [[Vedas]] yn [[India]]. Yn yr ''[[Avesta]]'' Iranaidd, mae'n dduwdod da, cyngheiriad [[Ahura Mazda]], ac fe'i gelwir yn "farnwr yn enediau". Er hynny, nid oes sicrwydd fod y mithras yma yr un duwdod a'r Mithras a addolid yn y cwlt.
 
Roedd cwlt Mithras yn un o grefyddau y cyfrinachau, lle roedd aelodau newydd yn dod yn aelodau trwy seremonïau oedd yn dadlennu cyfrinachau'r grefydd iddynt. Addolid Mithras mewn temlau o'r enw [[Mithraeum]]. Ogofâu naturiol oedd y rhain ar y cychwyn, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Nid oedd gan y grefydd ysgrythyrau. a rhaid dyfalu ei dysgeidiaeth o'r lluniau a cherfluniau sydd wedi eu cadw. Ymddengys i'r duw Mithras gael ei eni o graig gerllaw ffynnon santaidd. Lladdodd y [[tarw]] cyntefig mewn ogof.
 
Roedd saith gradd o aelodau o'r cwlt: