Yr Ymerodraeth Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g, 5ed ganrif5g (3) using AWB
B clean up
Llinell 2:
'''Yr Ymerodraeth Rufeinig''' ({{Iaith-la|Imperium Romanum}}) yw'r term a ddefnyddir am y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd [[y Weriniaeth Rufeinig]] ac a barhaodd hyd y [[5g]] OC yn y gorllewin, ac fel [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]] hyd [[1453]] yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo [[Senedd Rhufain]], llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerawdwyr, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio [[Iŵl Cesar]] fel ''dictator'' am oes yn [[44 CC]], buddugoliaeth etifedd Cesar, [[Augustus|Octavianus]] ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]] yn [[31 CC]], a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus ([[16 Ionawr]], [[27 CC]]).
 
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o [[Sbaen]] yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn [[Carthago]], a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad [[Trajan]] tua [[177]]. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwâr) o dir.
 
Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau'r ymerawdwr [[Diocletian]]. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn [[476]] pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, [[Romulus Augustus]]. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaernïaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanwad sy'n parhau hyd heddiw.
Llinell 9:
=== O weriniaeth i ymerodraeth ===
[[Delwedd:Bust_of_Gaius_Iulius_Caesar_in_Naples.jpg|140px|bawd|chwith|[[Iŵl Cesar]]: cerflun Rhufeinig.]]
Roedd i [[Rhufain Hynafol|Rufain Hynafol]] hanes hir cyn cyfnod yr ymerodraeth. Concrwyd llawer o'r tiriogaethau aeth yn rhan o'r Ymerodraeth yn ystod y [[Gweriniaeth Rhufain|Weriniaeth Rufeinig]], er enghraifft concrwyd [[Sbaen]] yn ystod y rhyfeloedd rhwng Rhufain a [[Carthago]], a choncrwyd [[Gâl]] gan [[Iŵl Cesar]].
 
Yn [[60 CC]] daeth Cesar i gytundeb a [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]] i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Galwyd y cynghrair yma yn y ''triumvirate''. Yn [[54 CC]], lladdwyd Crassus gan y [[Parthia]]id, ac yn raddol dirywiodd y berthynas rhwng Pompeius a Cesar. Yn [[49 CC]], croesodd Cesar a'i fyddin [[Afon Rubicon]], y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau [[rhyfel cartref]] yn Rhufain. Enciliodd Pompeius i [[Brundisium]] cyn croesi i [[Gwlad Groeg|Wlad Roeg]], a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym [[Brwydr Pharsalus|Mrwydr Pharsalus]] yn [[48 CC]], a ffodd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin [[Ptolemy XIII]]. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.
Llinell 17:
=== Yr ymerawdwyr cynnar ===
[[Delwedd:Augustus Statue.JPG|bawd|200px|chwith|Yr ymerawdwr cyntaf: Augustus tua 30 CC.]]
Dangosodd Augustus allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle wrth gadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydd ''dictator'' fel Iŵl Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain; y teitl a ddefnyddiai oedd ''Princeps'', yn yr ystyr "dinesydd cyntaf" yn hytrach na "tywysog". Rhoddodd y Senedd hawliau [[tribwn y bobl]] a [[sensor]] iddo am oes, a bu'n gonswl hyd 23 CC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'i ''auctoritas'' (awdurdod) ef ei hun.
 
Bu llawer o ymladd yn [[Germania]] yn ystod ei deyrnasiad ef. Enillwyd nifer o fuddugoliaethau dros yr Almaenwyr, ond yn y flwyddyn [[9]] OC gorchfygwyd y cadfridog [[Publius Quinctilius Varus]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]] gan luoedd [[Arminius]], a dinistriwyd tair lleng Rufeinig. Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers [[Brwydr Cannae]] yn erbyn [[Hannibal]]. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd [[Afon Rhein]].
 
Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y ''Pax Romana'' ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn [[69]], parhaodd hwn am dros ddwy ganrif. Roedd hefyd yn gyfnod nodedig i lenyddiaeth, gyda llenorion fel [[Fyrsil]] ac [[Ofydd]] yn ysgrifennu. Bu Augustus farw ar [[19 Awst]], [[14]] OC, a dilynwyd ef gan [[Tiberius]], mab ei wraig Livia o briodas flaenorol.
 
[[Delwedd:Tiberius palermo.jpg|bawd|de|200px|Tiberius Caesar Augustus, ail ymerawdwr Rhufain]]
Llinell 27:
Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffin yn [[Germania]] a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn [[27]] OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys [[Capri]], ar yr arfordir gerllaw [[Napoli]]. Daeth pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], [[Lucius Aelius Seianus]], yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hun gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn [[31]]. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gwŷr amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.
 
Bu farw yn [[Misenum]] yn 77 oed yn [[37]], a dilynwyd ef gan [[Caligula]], mab ei frawd [[Germanicus]].
 
Mwynhaodd Caligula boblogrwydd eithriadol ar ddechrau ei deyrnasiad am ei fod yn ifanc a brwdfrydig, ond yn nes ymlaen dechreuodd ymddwyn yn orthrymol ac afresymol ac fe'i cyhuddid o fod yn wallgof gan ei gyfoeswyr. Cafodd ei lofruddio yn [[41]], a dilynwyd ef gan [[Claudius]].
Llinell 33:
Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu [[Thrace]], [[Mauretania (talaith)|Mauretania]], [[Noricum]], [[Pamphylia]], [[Lycia]] ac [[Iudaea]] yn ogystal â choncro [[Prydain]]. Yn [[43]], gyrrodd Claudius [[Aulus Plautius]] gyda phedair [[Lleng Rufeinig|lleng]] i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth. Bu farw Claudius yn [[54]], a dilynwyd ef gan [[Nero]].
 
Fel Caligula, roedd Nro yn eithriadol o boblogaidd ar ddechrau ei deyrnasiad, ond yn ddiweddarach collodd ei boblogrwydd, yn rhannol oherwydd ei ymddygiad anghonfensiynol. Dienyddiwyd llawer o seneddwyr ac eraill a ystyriai yn fygythiad iddo. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a lladdodd ei hun yn [[68]] pan welodd nad oedd cefnogaeth iddo. Apwyntiodd y Senedd [[Galba]], i gymryd ei le; yr ymerawdwr cyntaf nad oedd o deulu Augustus.
 
Roedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Yr oedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Yr oedd Marcus Salvius [[Otho]] wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Calpurnius Piso yn olynydd. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymerawdwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef ar yr orsedd gan Otho. Dilynwyd hyn gan gyfres o ryfeloedd a elwir yn [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr|Flwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] yn [[69]]. Roedd y [[Lleng Rufeinig|llengoedd]] yn [[Germania]] eisoes wedi cyhoeddi [[Vitellius]] yn ymerawdwr gan a chychwynnodd fyddin gref o'r llengoedd hyn am ddinas [[Rhufain|Rufain]] ei hun. Bu brwydr rhyngddynt hwy a'r llengoedd oedd yn ffyddlon i Otho yn [[Bedriacum]], gyda byddin Vitellius yn fuddugol. Lladdodd Otho ei hun, a daeth Vittelis yn ymerawdwr.
 
[[Delwedd:Colosseum in Rome, Italy - April 2007.jpg|bawd|200px|Adeiladwyd y Colisewm gan Vespasian, a'i agor yn nheyrnasiad ei fab, Titus]]
 
Yn [[Judea]], roedd byddin Rufeinig gref dan y cadfridog [[Vespasian]] yn ymladd yn erbyn gwrthryfel yr Iddewon. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw [[Syria]], Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar [[Afon Donaw]] dan [[Marcus Antonius Primus]], a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Yn [[Brwydr Bedriacum|ail frwydr Bedriacum]] gorchfygodd byddin Primus lengoedd Vitellius, cyn mynd ymlaen i Rufain a lladd Vitellius ei hun.
 
Yn wahanol i'r tri ymerawdwr o'i flaen, llwyddodd Vespasian i'w sefydlu ei hun yn gadarn ar yr orsedd a chychwyn y llinach Fflafaidd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf [[Titus]]. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r [[Colisewm]] yn Rhufain.
Llinell 47:
=== Oes Aur yr Ymerodraeth ===
[[Delwedd:TrajanXanten.jpg|bawd|chwith|200px|Cerflun o Trajan yn [[Xanten]] ([[Yr Almaen]])]]
O [[98]] hyd [[180]] OC, cafodd yr ymerodraeth [[Oes Aur]] yn ystod teyrnasiad y "Pum Ymerawdwr Da", sef [[Nerva]], [[Trajan]], [[Hadrian]], [[Antoninus Pius]] a [[Marcus Aurelius]]. Yr oedd y pedwar cyntaf o'r rhain yn ddi-blant, ac felly dewisasant y gŵr yr oeddynt yn ei ystyried fel y mwyaf addas fel olynydd. Sicrhaodd hyn fod yr Ymerodraeth yn cael ei harwain gan gyfres o wŷr galluog ac ymroddgar. Yn anffodus yr oedd gan yr olaf ohonynt, Marcus Aurelius, fab, sef [[Commodus]]. Dilynodd ef ei dad fel ymerawdwr a bu'n llawer llai llwyddiannus.
 
Yr oedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ôl dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd ar [[Afon Rhein]] ac [[Afon Donaw]]. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn [[99]]. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y [[Dacia]]id, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn [[Rwmania]]. Bu dau ryfel yn erbyn [[Decebalus]], brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newydd [[Dacia]]. Adeiladwyd [[Colofn Trajan]] yn Rhufain i goffáu ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd crëwyd talaith [[Arabia Petraea]].
Llinell 53:
Yn [[113]] dechreuodd rhyfel yn erbyn y [[Parthia]]id. Cipiodd [[Ctesiphon]], prifddinas Parthia, yn [[115]], ac ymgorfforwyd [[Armenia Inferior|Armenia]], [[Asyria]] a [[Mesopotamia]] yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ôl o'r brwydro yma, yn [[Selinus]], gerllaw'r [[Môr Du]], ar yr [[8 Awst]] [[117]]. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd [[Trajan]] [[Hadrian]] fel ei olynydd.
 
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r ymerodraeth a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn [[Dacia]]. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel [[Mur Hadrian]] ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]]. Ef hefyd a adeiladodd y [[Pantheon]] yn [[Rhufain]].
 
[[Delwedd:Roman Empire Trajan 117AD.png|bawd|de|250px|Yr ymerodraeth Rufeinig ar ei heithaf yn [[117]], ar ddiwedd teyrnasiad Trajan]]
Llinell 59:
Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Nid oedd ganddo blant, a dewisodd [[Antoninus Pius]] fel ei olynydd. Dywedir fod Antoninus Pius yn ymerawdwr poblogaidd iawn oherwydd ei allu a'i hynawsedd. Amddiffynnodd y Cristionogion yn yr ymerodraeth ac yr oedd yn nodedig o drugarog wrth ddelio a chynllwynion yn ei erbyn. Yr oedd yn gyfrifol am lawer o adeiladu, yn enwedig yn ninas Rhufain.
 
Bu raid i'w olynydd, [[Marcus Aurelius]] ryfela'n barhaus yn erbyn gwahanol bobloedd ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd yr Almaenwyr droeon ar [[Gâl]], ac adenillodd y [[Parthia]]id eu nerth ac ymosod ar yr ymerodraeth. Oherwydd y problemau hyn dewisodd [[Lucius Verus]] fel cyd-ymerawdwr, hyd farwolaeth Verus yn [[169]]. Credir mai yn ystod ei deyrnasiad ef y bu'r cysylltiad cyntaf rhwng yr ymerodraeth Rufeinig a [[Tsieina]] yn y flwyddyn [[166]].
 
Bu farw Marcus Aurelius ar [[17 Mawrth]] [[180]] yn ninas [[Vindobona]] ([[Fienna]] heddiw) wrth ymgyrchu yn erbyn y [[Marcomanni]]. Daethpwyd a'i gorff yn ôl i Rufain i'w gladdu. Yn wahanol i'r pedwar ymerawdwr o'i flaen yr oedd ganddo fab i'w olynu. Gwnaeth ei fab [[Commodus]] yn gyd-ymerawdwr yn [[177]], a dilynodd ei dad yn 180. Yn anffodus ni fu Commodus yn ymerawdwr da, ac mae rhai haneswyr yn ystyried mai marwolaeth Marcus Aurelius yn 180 oedd diwedd y [[Pax Romana]].
Llinell 65:
=== Argyfwng ac adferiad ===
[[Delwedd:SeptimeSévère.jpg|bawd|chwith|'''Septimius Severus''', amgueddfa'r [[Louvre]]]]
Rhoddodd Commodus rym i ffrindiau llwgr, a chynorthwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Yr oedd yn arbennig o hoff o ymladdfeydd [[gladiator]] a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enw [[Hercules]] Romanus.
 
Llofruddiwyd Commodus yn [[192]], a dilynwyd ef gan [[Pertinax]]. Byr fu ei deyrnasiad ef; y flwyddyn ddilynol, [[193]], llofruddiwyd yntau. Cyhoeddwyd y cadfridog [[Septimius Severus]] yn ymerawdwr gan ei lengoedd. Llwyddodd llengoedd Severus i feddiannu [[Rhufain]] heb wrthwynebiad. Yr un pryd yr oedd y llengoedd yn [[Syria]] wedi cyhoeddi [[Pescennius Niger]] yn ymerawdwr, a'r llengoedd ym Mhrydain wedi cyhoeddi [[Clodius Albinus]] fel ymerawdwr. Gwnaeth Severus gynghrair a Clodius Albinus i orchfygu Pescennius Niger, yna yn [[197]] cafodd wared ar Albinus hefyd a theyrnasu ar ei ben ei hun.
Llinell 78:
 
=== Argyfwng y drydedd ganrif a diwygiadau Diocletian ===
Yn dilyn marwolaeth yr ymerawdwr [[Alexander Severus]] yn 235 bu o leiaf 19 o ymerawdwyr (heb gynnwys cyd-ymerawdwyr) yn y 50 mlynedd hyd 284. Y cyfnod yma oedd [[Argyfwng y Drydedd Ganrif]], gyda chyfres o ymerawdwyr milwrol, yn dechrau gyda [[Maximinus Thrax]], oedd yn dibynnu ar gefnogaeth y llengoedd i'w cadw ar yr orsedd. Ni lwyddodd yr un o'r ymerawdwyr hyn i deyrnasu fwy nag 8 mlynedd, a llawer ohonynt ddim mwy nag ychydig fisoedd. Un o'r mwyaf llwyddiannus oedd [[Valerian I]], a ddaeth yn ymerawdwr yn [[253]]. Enwodd Valerian ei fab Galienus fel cyd-ymerawdwr. Ar ddechrau ei deyrnasiad yr oedd problemau yn Ewrop, yna bu trafferthion mwy yn y Dwyrain. Cipiodd y [[Persia]]id [[Antiochia]] a meddiannu [[Armenia]]. Tra'r oedd Galienus yn delio ag Ewrop, teithiodd Valerian tua'r dwyrain. Tua [[257]] llwyddodd Valerian i gael Antiochia a thalaith [[Syria]] yn ôl, ond y flwyddyn wedyn ymosododd y [[Gothiaid]] ar [[Asia Leiaf]]. Tua diwedd [[259]] yr oedd yr ymerawdwr yn [[Şanlıurfa|Edessa]], ond effeithiwyd ar ei fyddin gan glefyd. Rhywsut, efallai trwy frad pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], [[Macrinus]], cymerwyd Valerian yn garcharor gan y Persiaid. Credir iddo gael ei drin yn greulon ac yna ei ddienyddio. Wedi marwolaeth Valerian, meddiannwyd Syria a [[Cappadocia]] gan y Persiaid.
 
Daeth [[Aurelian]] yn ymerawdwr yn [[270]], gyda'r ymerodraeth yn wynebu bygythiadau yn y dwyrain a'r gorllewin. Bu'n ymladd yn erbyn yr Almaenwyr a'r Gothiaid, ac wedi ymosodiadau'r Almaenwyr ar yr Eidal penderfynodd Aurelian adeiladu mur o amgylch Rhufain, "Mur Aurelian", Dechreuodd y gwaith yn [[271]] a gorffenwyd ef yn nheyrnasiad [[Probus]]. Cyhoeddodd nifer o bersonau eu hunain yn ymerawdwyr, ond llwyddodd Aurelian i'w gorchfygu heb ormod o drafferth. Yn [[272]] gorchfygodd y Gothiaid ar ffin Afon Donaw, gan ladd eu brenin, Cannabaudes. Yna troes tua'r dwyrain, lle'r oedd [[Zenobia (Brenhines Palmyra)|Zenobia]], brenhines [[Palmyra]] wedi adeiladu ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r [[Aifft]] hyd [[Asia Leiaf]]. Gorchfygodd Aurelian Zenobia mewn dwy frwydr cyn gwarchae ar Palmyra. Ceisiodd Zenobia ddianc i [[Persia]] ond cymerwyd hi'n garcharor gan y Rhufeiniaid. Yn awr troes Aurelian tua'r gorllewin, lle'r oedd [[Ymerodraeth y Galiaid]] wedi dod yn rhydd o reolaeth Rhufain. Ffoes Tetricus, ymerawdwr y Galiaid, at Aurelian i ofyn am nodded rhag yr ymladd parhaus yn ei diriogaethau. Wedi delio a gelynion allanol, rhoes Aurelian ei sylw i'r economi a gwnaeth ymdrech fawr i ddileu llygredd yn yr ymerodraeth. Roedd yn cynllunio ymgyrch i adennill [[Mesopotamia]] i'r ymerodraeth pan lofruddiwyd ef gan ei ysgrifennydd personol, Eros, efallai am ei fod yn ofni am ei safle yn wyneb ymgyrch Aurelian yn erbyn llygredd.
 
Daeth [[Diocletian]] yn ymerawdwr yn [[284]], a gwnaeth newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Ceisiodd adfywio'r economi a rhannodd yr ymerodraeth yn 96 talaith oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth ''[[diocesis]]''. Ceisiodd hefyd adfywio hen grefydd Rhufain, a bu llawer o erlid ar y Cristionogion yn ystod ei deyrnasiad.
 
Y newid pwysicaf a wnaed gan Diocletian oedd dechrau'r Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", [[Galerius]] a [[Constantius Chlorus]]. Yr oedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am [[Thracia]], [[Asia]] a'r [[Aegyptus|Aifft]]; Galerius yn gyfrifol am y [[Balcanau]] heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli [[Italia]], [[Hispania]] ac [[Africa (Talaith Rufeinig|Affrica]], a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Yr oedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle. Ar [[1 Mai]] [[305]] ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol.
Llinell 88:
=== Cristioneiddio'r ymerodraeth ===
[[Delwedd:Rome-Capitole-StatueConstantin.jpg|bawd|200px|chwith|Cystennin Fawr]]
Ar farwolaeth Constantius, yn [[Efrog]] ar [[25 Gorffennaf]] [[306]], cyhoeddodd ei lengoedd ei fab [[Cystennin Fawr|Cystennin]] yn "Augustus".
 
Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym [[Brwydr Pont Milvius|Mrwydr Pont Milvius]] ([[312]]) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym [[Brwydr Adrianople|Mrwydr Adrianople]] ( [[323]]) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, [[Licinius]], a dod yn unig ymerawdwr (''Totius orbis imperator'').
Llinell 94:
Dywedir i Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’ , fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw [[Cyngor Nicea]] a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas [[Byzantium]] fel [[Caergystennin]] (''Constantini-polis''), [[Istanbul]] heddiw.
 
Ceisiodd yr ymerawdwr [[Julian]], a gyhoeddwyd yn "Augustus" gan ei filwyr yn [[360]], wrthwynebu y symudiad tuag at Gristionogaeth. Ail-agorodd demlau duwiau traddodiadol Rhufain. Ceisiodd wanhau'r Cristionogion mewn gwahanol ffyrdd. Yn [[362]] pasiwyd deddf oedd yn gwahardd Cristionogion rhag dysgu gramadeg a rhethreg, ac alltudiwyd rhai esgobion megis [[Athanasius]].
 
Yn [[363]] cychwynnodd Julian tua'r dwyrain gyda byddin o 65,000 i ddechrau'r ymgyrch yn erbyn y [[Persiaid]] oedd wedi ei chynllunio gan Constantius. Enillodd Julian fuddugoliaeth dros y Persiaid a chyrraedd at eu prifddinas [[Ctesiphon]], ond mewn ysgarmes ar [[26 Mehefin]] [[363]] anafwyd Julian gan waywffon, ac er gwaethaf ymdrechion ei feddyg Oribasius o Pergamon, bu farw o'r clwyf. Cyhoeddodd y fyddin swyddog ieuanc o Gristion, [[Jovian]], yn ymerawdwr yn ei le, ac o hynny ymlaen Cristionogaeth oedd crefydd yr ymerodraeth.
Llinell 100:
=== Cwymp ymerodraeth y gorllewin ===
[[Delwedd:RomulusAugustus.jpg|bawd|200px|Romulus Augustus, yr ymerawdwr olaf yn y gorllewin]]
O [[375]] ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: [[Valens]], [[Valentinian II]] a [[Gratianus]]. Pan laddwyd [[Valens]] ym [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianople]] yn [[378]], penododd Gratianus [[Theodosius I|Theodosius]] yn ei le fel ''cyd-augustus'' yn y dwyrain. Lladdwyd Gratianus mewn gwrthryfel yn [[383]], a chyhoeddodd [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr [[Eidal]]. Yn [[387]] ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosius ef a'i ladd. Bu farw Valentinian II yn [[392]], gan adael Theodosius yn unig ymerawdwr. Teyrnasodd Theodosius hyd [[395]]; ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth [[Cristionogaeth|Gristionogaeth]] yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.
 
Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, [[Flavius Augustus Honorius|Honorius]] yn y gorllewin ac [[Arcadius]] yn y dwyrain, ac ni chafodd y ddau ran eu had-uno eto. Erbyn hyn roedd y [[Fisigothiaid]] dan eu brenin [[Alaric I]] yn bygwth yr ymerodraeth. Yn [[401]] gwnaeth gytundeb ag Arcadius a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis [[Corinth]] a [[Sparta]] cyn cyrraedd [[Yr Eidal]]. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig [[Stilicho]] ar [[6 Ebrill]] [[402]] ym Mrwydr Pollentia. Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn [[408]], gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas [[Rhufain]]. Ym mis Awst [[410]] cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, [[Gala Placidia]], ymaith fel carcharor. Dyma'r tro cyntaf i'r ddinas gael ei chipio gan elyn ers [[390 CC]].
 
Dirywiodd sefyllfa ymerodraeth y gorllewin yn raddol yn ystod y [[5g]]. Yn [[455]], llofruddiwyd dau ymerawdwr, a bu un arall farw mewn terfysg. Yn y cyfnod yma, cadfridogion megis [[Ricimer]] oedd a'r grym mewn gwirionedd, yn hytrach na'r ymerawdwr. Cafodd yr ymerawdwr olaf, [[Romulus Augustus]], ei goroni yn Hydref [[475]], yn llanc ifanc tua 12 oed. Roedd ei dad, [[Flavius Orestes|Orestes]], yn bennaeth y fyddin Rufeinig ([[Magister militum]]), ac ef a osododd Romulus ar yr orsedd wedi iddo ddiorseddu [[Julius Nepos]]. Mae'n debyg mai ei dad oedd yn rheoli yn ei enw. Ddeg mis yn ddiweddarach, diorseddwyd Romulus Augustus gan [[Odoacer]] ar [[4 Medi]], [[476]]. Ni laddwyd Romulus; yn hytrach fe'i gyrrwyd i fyw yn y [[Castellum Lucullanum]] yn [[Campania]].
 
Yn eironig, roedd yr ymerawdwr olaf yn dwyn enw sylfaenydd dinas Rhufain, [[Romulus]], ac enw ymerawdwr cyntaf Rhufain, [[Augustus]]. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am fil o flynyddoedd eto fel [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]].
Llinell 110:
=== Yr ymerodraeth yn y dwyrain: yr Ymerodraeth Fysantaidd ===
[[Delwedd:Roman-Empire 565ad.jpg|bawd|250px|dde|Yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ei hanterth yn 565.]]
Bu'r ymerodraeth yn y dwyrain yn fwy llwyddiannus nag ymerodraeth y gorllewin yn y [[5g]]. Nid yw haneswyr yn cytuno pa bryd y dechreuodd [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]]; "yr ymerodraeth Rufeinig" oedd hi i'w phreswylwyr ar hyd y canrifoedd. Awgryma rhai ei bod wedi dechrau gyda [[Diocletian]] yn rhannu'r ymerodraeth yn ddwy ran yn y flwyddyn [[284]]. Gellir dyddio'r Ymerodraeth Fysantaidd o deyrnasiad [[Cystennin I]], yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y [[prifddinas|brifddinas]] i Gaergystennin. Gellir hefyd ei dyddio i deyrnasiad [[Valens]]; lladdwyd ef yn ymladd yn erbyn y [[Gothiaid]] ym [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianople]] yn [[378)]], ac mae'r flwyddyn hon yn un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau [[yr Oesoedd Canol]]. [[Arcadius]] a [[Theodosius I]] oedd yr ymerodron olaf i reoli'r cyfan o'r ymerodraeth, gorllewin a dwyrain.
 
Yn y [[6g]] dechreuodd yr ymerawdwr [[Justinian I]] ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd. Penododd y cadfridog [[Belisarius]] yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y [[Fandaliaid]] yng Ngogledd Affrica rhwng [[533]] a [[534]]. Ym [[Brwydr Ad Decimum|Mrwydr Ad Decimum]] ([[13 Medi]] [[533]]) gerllaw [[Carthago]], gorchfygodd [[Gelimer]], brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau [[534]].
 
Yn [[535]] gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr [[Eidal]], oedd ym meddiant yr [[Ostrogothiaid]] a chipiodd ddinas [[Rhufain]] yn [[536]], yna symudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum ([[Milano]] heddiw) yna yn [[540]] [[Ravenna]], prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn [[Syria]] [[541]] -[[542]]).
Llinell 143:
 
{{Rhufain hynafol}}
 
 
 
 
 
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig| ]]
 
 
 
 
 
[[cs:Starověký Řím#Císařství]]