Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Allectus"

Lleihawyd o 2 feit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (Bot: Migrating 15 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q311556 (translate me))
B (→‎top: clean up)
[[Delwedd:Quinarius Allectus galley-RIC 0128.2.jpg|bawd|300px|Darn arian yn dwyn delw Allectus, gyda llong ar y cefn]]
 
Roedd '''Allectus''' (bu farw [[296]]) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o [[293]] hyd ei farwolaeth.
 
Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i [[Carausius]], oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o [[Gâl]] am rai blynyddoedd. Yn [[293]] llwyddodd [[Constantius Chlorus]], y ''Cesar'' yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.
 
Ymosododd Constantius arni ym mis Medi 296. Ymddengys i lynges Constantius ei hun gael ei hatal rhag glanio gan y tywydd am gyfnod, ond glaniodd rhan arall o'r llynges dan [[Julius Asclepiodotus|Asclepiodotus]]. Gorchfygwyd Allectus mewn brwydr, efallai ger [[Calleva Atrebatum]] ([[Silchester]] heddiw), a lladdwyd ef.
 
Ceir cyfeiriad at Allectus yn "hanes" [[Sieffre o Fynwy]], ''[[Historia Regum Britanniae]]''.
452,433

golygiad