Batafiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Bataafseeed.jpg|bawd|240px|''Cynllwyn y Batafiaid dan Claudius Civilis'' gan [[Rembrandt van Rijn]]]]
Llwyth Almaenaidd yn byw ger aber [[Afon Rhein]] yn yr hyn sydd nawr yn wlad [[yr Iseldiroedd]] oedd y '''Batafiaid''' ([[Lladin]] ''Batavi'').
 
Ceir cyfeiriad atynt gan [[Iŵl Cesar]] yn ei lyfr ''[[Commentarii de Bello Gallico]]'', lle dywed eu bod yn byw ar ynys a ffurfiwyd lle mae Afon Rhein yn ymrannu yn nifer o afonydd, yn cynnwys y [[Afon Waal|Waal]] a'r [[Nederrijn]] (Rhein Isaf). Ceir cyfeiriadau pellach atynt gan yr haneswyr Rhufeinig [[Tacitus]] a [[Suetonius]].
 
Roeddynt mewn cynghrair a'r Rhufeiniad yng nghanol y ganrif gyntaf, ac yn darparu milwyr cynorthwyol a gymerodd ran mewn llawer o ymgyrchoedd y Rhufeiniaid, yn cynnwys concwest Prydain o 43 OC ymlaen. Yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] (69 OC), gwrthryfelodd y Batafiaid yn erbyn Rhufain dan [[Gaius Julius Civilis]]. Gallasant ddinistrio rhai llengoedd Rhufeinig a pherswadio llengoedd eraill i ochri gyda hwy yn erbyn Rhufain. Wedi i [[Vespasian]] ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin dan [[Quintus Petillius Cerialis]] i roi terfyn ar y gwrthryfel.
 
Yn ystod cyfnod [[Ymerodraeth yr Iseldiroedd]], "Batavia" oedd enw'r ddinas sy'n awr yn [[Jakarta]], prifddinas [[Indonesia]]. Efallai fod [[Betuwe]], ardal yn nhalaith [[Gelderland]] yn yr Iseldiroedd, wedi ei enwi ar ôl y Batafiaid.