Caer Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 4:
'''Caerau Rhufeinig''' (unigol: '''Caer Rufeinig''') yw'r term Cymraeg am y gwersylloedd amddiffynol a elwir yn ''Castra'' (unigol: ''castrum'') yn [[Lladin]].
 
Ceir sawl math o gaerau Rhufeinig: rhai parhaol, rhai a ddefnyddid yn yr haf yn unig a rhai dros dro. Gallai'r maint hefyd amrywio'n fawr, o gaer ar gyfer [[Lleng Rufeinig]] gyfan, er enghraifft [[Caerllion]], i gaer ar gyfer nifer fychan o filwyr cynorthwyol. Gallent fod wedi eu hadeiladu o gerrig neu o goed gyda chloddiau pridd. Er hynny, roedd y cynllun sylfaenol yr un fath ym mhob un ohonynt (gweler y diagram). Roedd y gaer yn [[petrual|betrual]], gyda chorneli crwm, tebyg i ffurf cerdyn chwarae. Tu mewn i'r muriau, roedd dwy brif ffordd: y ''via principalis'' a'r ''via praetoria'' yn cyfarfod yn y canol. Yma y ceid y ''praetorium'', lle roedd yr adeiladau neu bebyll i lywodraethwyr y gaer.
 
Mae "Caer" yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. [[Caerdydd]], [[Caernarfon]].