Legio XIII Gemina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 20 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q168553 (translate me)
B →‎top: clean up
 
Llinell 1:
[[Lleng Rufeinig]] oedd '''Legio XIII Gemina''' ("Efaill"). Codwyd y lleng gan [[Iŵl Cesar]] yn [[57 CC]] ar gyfer ei ymgyrch yng [[Gâl|Ngâl]], a'i symbol oedd y [[llew]]. Hon oedd y lleng oedd gyda Cesar pan groesodd [[afon Rubicon]] i'r Eidal yn [[49 CC]], gan ddechrau y rhyfel cartref yn erbyn [[Pompeius]].
 
Ymladdasant dros Cesar ym mrwydrau [[Brwydr Dyrrhachium|Dyrrhachium]] a [[Brwydr Pharsalus|Pharsalus]]. Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Pompeius. chwalwyd y lleng a rhoddwyd tiroedd i'r hen filwyr, on yn [[46 CC]], fe'i hail-ffurfiwyd i ymladd yn Affrica. Wedi ennill brwydrau [[Brwydr Thapsus|Thapsus]] a [[Brwydr Munda|Munda]], chwalwyd y lleng eto.
 
Ail-ffurfiwyd y lleng gan Octavianus, yr ymerawdr [[Augustus]] yn ddiweddarach, yn [[41 CC]]. a chafodd yr enw ''Gemina''. Yn [[16 CC]], symudwyd y lleng i dalaith [[Pannonia]]. Wedi i [[Publius Quinctilius Varus]] gael ei orchfygu gan y llwythau Almaenaidd ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]] yn [[9]] OC, symudwyd y lleng i Augusta Vindelicorum ([[Augsburg]] heddiw). Yn [[45]], gyrrodd yr ymerawdr [[Claudius]] y lleng yn ôl i Pannonia.
 
Ym [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdr|Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdr]], [[69]], cefnogodd y lleng [[Otho]], ac ymladdasant drosto ym [[Brwydr gyntaf Bedriacum|Mrwydr gyntaf Bedriacum]] yn erbyn byddin [[Vitellius]]. Wedi i Otho gael ei orchfygu, cefnogodd y lleng [[Vespasian]] yn erbyn Vitellius, gan ymladd yn [[Ail frwydr Bedriacum]] yn erbyn byddin Vitellius, yn fuddugol y tro hwn.