Legio XIV Gemina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 5ed ganrif5g using AWB
B clean up
 
Llinell 3:
O'r flwyddyn [[9]]OC ymlaen, roedd y lleng ym [[Moguntiacum]], [[Germania Superior]]. Yn [[43]] roedd y XIV ''Gemina Martia Victrix'' yn un o bedair lleng a ddefnyddiodd was [[Aulus Plautius]] i ymosod ar Brydain yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr [[Claudius]]. Yn [[60]] neu [[61]] bu gan y lleng yma ran flaenllaw yng ngorchfygu gwrthryfel Buddug. Mae'n debyg i'r lleng gymeryd rhan yn yr ymosodiad ar [[Ynys Môn]] dan y llywodraethwr [[Gaius Suetonius Paulinus]]; a pan gyrhaeddodd y newyddion am wrthryfel Buddug, y XIVeg oedd yr unig leng gyflawn yn y fyddin a arweiniodd Paulinus o Fôn i Lundain cyn ymladd y frwydr derfynol yn erbyn Buddug.
 
Yn [[89]] gwrthryfelodd llywodraethwr [[Germania Superior]], [[Lucius Antonius Saturninus]], yn erbyn [[Domitian]], a chefnogwyd ef gan y XIVfed a'r [[Legio XXI Rapax|XXI ''Rapax'']], ond gorchfygwyd y gwrthryfel.
 
Pan ddinistriwyd lleng XXI yn [[92]], gyrrwyd XIV ''Gemina'' i [[Pannonia]] yn ei lle. Bu'n ymladd yn erbyn y [[Sarmatiaid]] a rhyfeloedd [[Trajan]] yn erbyn y [[Dacia]]id. Symudwyd y lleng i ''[[Carnuntum]]'', lle bu am dair canrif. Ymladdodd yn erbyn y [[Mauri]] dan yr ymerawdwr [[Antoninus Pius]], ac yn erbyn y [[Parthia]]id dan [[Lucius Verus]]. Pan oedd yn ymladd yn erbyn y [[Marcomanni]], Carnutum oedd pencadlys yr ymerawdwr [[Marcus Aurelius]].
 
Yn [[193]], wedi marwolaeth [[Pertinax]], cyhoeddwyd pennaeth y XIVeg, [[Septimius Severus]], yn ymerawdwr gan lengoedd Pannonia. Ymladdodd y XIVeg drosto yn erbyn [[Didius Julianus]] (193) a [[Pescennius Niger]] (194), ac mae'n debyg iddi ymladd yn erbyn y Parthiaid pan gipwyd eu prifddinas, [[Ctesiphon]] yn [[198]].
 
Ar ddechrau'r [[5g]] roedd y lleng yn dal yn Carnuntum.
 
== Gweler hefyd ==
* [[Rhestr Llengoedd Rhufeinig]]
* [[Lleng Rufeinig]]
 
 
 
[[Categori:Llengoedd Rhufeinig|XIV Gemina]]