Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Aenid"

Lleihawyd o 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB)
B (→‎top: clean up)
[[Delwedd:Aeneas' Flight from Troy by Federico Barocci.jpg|bawd|dde|280px|''Aeneas yn ffoi o Gaerdroa'', [[Federico Barocci]], [[1598]].]]
 
Cerdd [[Lladin|Ladin]] gan y bardd [[Ymerodraeth Rhufain|Rhufeinig]] [[Fyrsil]] yw'r '''''Aeneid''''' ([[Lladin]]: '''''Aeneis''''', daw y ffurf "Aenid" o'r [[Groeg (iaith)|Groeg]]). Ysgrifennwyd y gerdd rheng [[29 CC]] ac [[19 CC]]. Mae'n adrodd hanes [[Aeneas]], mab i'r tywysog [[Anchises]] a'r dduwies [[Aphrodite]] (Gwener); mae Anchises yn gefnder i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]]. Yn yr ''[[Iliad]]'', ef yw arweinydd y [[Dardaniaid]] sy'n ymladd ar ochr Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac mae'n un o gynghreiriaid agosaf [[Hector]]. Pan syrth dinas Caerdroes ar ddiwedd [[Rhyfel Caerdroea]], llwydda Aeneas i ddianc o'r ddinas.
 
Dechreua'r ''Aenid'' gydag Aeneas yn hwylio tua'r Eidal i chwilio am gartref newydd. Gyrr y dduwies [[Juno]] stormydd, a gyrrir ef i Ogledd Affrica a dinas [[Carthago]], lle mae'r frenhines [[Dido]] yn syrthio mewn cariad ag Aeneas. Er hynny, mae Aeneas yn mynnu gadael, ac yn teithio i'r [[Eidal]]. Yn ail hanner y gerdd, ceir hanes ei frwydro yn erbyn y [[Lladiniaid]]. Mae'n ymsefydlu yn [[Latium]], lle mae'n priodi [[Lavinia]], merch y brenin Latinus, ac yn sefydlu dinas [[Lavinium]].
 
Yn ddiweddarach, dywedir i'w fab, [[Ascanius]], yn sefydlu dinas [[Alba Longa]], a gyfrannodd at sefydlu dinas [[Rhufain]], felly mae'r Aenid yn epig genedlaethol Rhufain. Ystyriai brenhinoedd [[Teyrnas Rhufain]] eu hunain fel disgynyddion Aeneas, ac roedd teulu yr Iulii, yn eu plith [[Iŵl Cesar]], yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion Aeneas, a felly'n ddisgynyddion y dduwies Gwener. Ysgrifennwyd y gerdd dan yr ymerawdwr [[Augustus]], nai a mab mabwysiedig Iŵl Cesar.
449,732

golygiad