Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Alpes Maritimae"

Lleihawyd o 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB)
B (→‎top: clean up)
Roedd '''Alpes Maritimae''' yn dalaith o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Hi oedd y mwyaf deheuol o'r tair talaith fechan yn ardal yr [[Alpau]] rhwng [[Gâl]] a'r [[Eidal]]. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a [[Gallia Narbonensis]], gyda talaith [[Italia (talaith Rufeinig)|Italia]] i'r dwyrain ac [[Alpes Cottiae]] i'r gogledd. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd ''Cemenelum'', heddiw Cimiez sy'n rhan o ddinas [[Nice]], [[Ffrainc]].
Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau rhwng [[Gâl]] a'r Eidal. Hyd y flwyddyn [[15 CC]] yr oedd ym meddiant llwythau y [[Ligures]], ond y flwyddyn honno cychwynnodd yr ymerawdwr [[Augustus]] ymgyrch a ddaeth a'r diriogaeth i feddiant Rhufain. Y flwyddyn wedyn, [[14 CC]], crewyd y dalaith Rufeinig.
 
Yn y flwyddyn [[297]], ymestynwyd y dalaith i'r gogledd a symudwyd prifddinas y dalaith i ''Civitas Ebrodunensium'', ([[Embrun]] heddiw). Yr oedd dinasoedd eraill y dalaith yn cynnwys ''Nicaea'' ([[Nice]]) a ''Portus Herculis Monaeci'' ([[Monaco]]).
 
{{Taleithiau Rhufeinig}}
446,839

golygiad