Cystennin I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 10:
}}
 
'''Cystennin I''',enw llawn '''Caius Flavius Valerius Aurelius Claudius Constantinus''', a adnabyddir hefyd fel '''Cystennin Fawr''' , oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] rhwng [[306]] a [[337]]. Gwnaeth [[Cristionogaeth|Gristionogaeth]] yn grefydd gyfreithlon yn yr ymerodraeth.
 
Ganed Cystennin yn Naissus ([[Niš]] heddiw), yn fab i [[Constantius Chlorus]] a’i wraig gyntaf [[Helena o Gaergystennin|Helena]] (sail cymeriad [[Elen Luyddog]] yn y traddodiad Cymreig efallai). Ysgarodd Constantius Helena yn [[292]] i briodi Flavia Maximiana Theodora, merch yr ymerawdwr [[Maximianus]]. Bu Cystennin yn gwasanaethu yn llys yr ymerawdwr [[Diocletian]] yn [[Nicomedia]] wedi i’w dad gael ei enwi un un o’r ddau “Gesar” (is-ymerodron). Yn [[305]] ymddeolodd Diocletian a [Maximianus, a daeth tad Cystennin yn un o’r ddau “Augustus”. Bu farw Constantius yn [[Efrog]] ar [[25 Gorffennaf]] [[306]]. Yr oedd Cystennin gydag ef ar y pryd, a chyhoeddwyd ef yn “Augustus” gane i lengoedd.
 
Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym [[Brwydr Pont Milvius|Mrwydr Pont Milvius]] ([[312]]) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym [[Brwydr Adrianople|Mrwydr Adrianople]] ( [[323]]) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, [[Licinius]], a dod yn unig ymerawdwr (‘’Totius orbis imperator’’).
 
Dywedir I Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’ , fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw [[Cyngor Nicea]] a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas [[Byzantium]] fel [[Caergystennin]] (‘’Constantini-polis’’), [[Istanbul]] heddiw.
 
[[Delwedd:Labarum.svg|bawd|chwith|100px|Y ''Crismon'', baner filwrol Cystennin wedi ei weledigaeth.]]
 
Bu Cystennin yn gyfrifol am lawer o newidiadau yng nghyfreithiau Rhufain, a cheisiodd wahanu y llywodraeth sifil a’r fyddin, I leihau dylanwad gwleidyddol y cadfridogion.
 
Ar ffiniau’r ymerodraeth enillodd Cystennin fuddugoliaethau dros y [[Ffranciaid]] a’r [[Alemani]] ([[306]]-[[308]]), dros y Ffranciaid eto (313-314), dros y [[Visigothiaid]] yn [[332]] a thros y [[Sarmatiaid]] yn [[334]]. Erbyn [[336]] yr oedd wedi adennill rhan helaeth o dalaith [[Dacia]], nad oedd wedi bod yn rhan o’r ymerodraeth ers teyrnasiad [[Aurelian]] yn [[271]]. Pan fu farw yr oedd yn cynllunio ymgyrch yn erbyn y [[Persia]]id.
 
Dilynwyd ef gan ei dri mab o’i briodas a Fausta: [[Cystennin II]], [[Constantius I]] a [[Constantius II]].
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 30:
|width="30%" align="center"|'''O'i flaen :<br />'''[[Constantius Chlorus]] a [[Galerius]]
|width="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodron Rhufain]]<br />Cystennin I'''
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Cystennin II]], [[Constantius I]]<br /> a [[Constantius II]].
 
|}
 
 
 
 
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]