Llychlynwyr yng Ngalisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g, 11eg ganrif11g, 10fed ganrif10g, 9fed ganrif9g, 8fed ganrif8g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 12:
Yn [[diwylliant|ddiwylliannol]] ac yn [[economi|economaidd]], cysylltwyd [[Gorllewin Ewrop]] gan lwybr morwrol a alwyd gan y Llychlynwyr yn ''Vestvegr'' (tebyg i 'west way' yn Saesneg) a fu cyn hynny'n llwybr pwysig yn natblygiad y [[Celtiaid]]. Roedd Brenhiniaeth Galisia hanner ffordd rhwng gogledd a de'r llwybr hwn: rhwng [[Cefnfor yr Iwerydd]] a'r [[Y Môr Canoldir|Môr Canoldir]] a thrwyddi yr hwyliodd yr holl fasnachu rhwng [[Portiwgal]], De Sbaen ac [[Ynys Prydain]] ac Iwerddon. Dyma bwysigrwydd Galisia, felly, i'r Llychlynwyr (a'r Normaniaid), fel y Celtiaid cyn hynny.
 
Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr ''Annales Bertiniani'', yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber [[Afon Garonne]] (sydd heddiw yn [[Ffrainc]]) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn [[Lisbon]]. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.
 
Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal a hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn [[Catoira]] a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.<ref>[http://www.donquijote.org/culture/spain/society/holidays/viking-festival-galicia www.donquijote.org;] adalwyd 16 Mehefin 2015</ref> Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.<ref>[http://www.abdn.ac.uk/news/7184/ Prifysgol Aberdeen]; adalwyd 16 Mehefin 2015</ref>
 
Un o'u cyrchfannau oedd ''Jakobsland'', a adnabyddir heddiw fel [[Santiago de Compostela]], a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, [[Denmarc]] er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.