Serch llys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 20 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q851650 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 3:
[[Image:Meister der Manessischen Liederhandschrift 001.jpg|200px|bawd|Marchog yn derbyn ei arfau gan ei Arglwyddes, [[Codex Manesse]]]]
 
Math o [[serch]] rhamantaidd a gawsai ei foli, ei feithrin a'i ddyrchafu yn y [[llys]]oedd brenhinol a phlasdai uchelwyr yw serch llys. Daw i'r golwg fel confensiwn am y tro cyntaf yn ardal [[Profens]] (de [[Ffrainc]]) yn gynnar yn y 12fed ganrif, ond mae ei wreiddiau'n hŷn a cheir cysyniad cyffelyb yng ngwaith rhai beirdd [[Arabiaid|Arabaidd]] cynharach, yn enwedig y Mwriaid yn [[Andalucia]]. Credir fod barddoniaeth y bardd Rhufeinig [[Ofydd]] yn ddylanwad pwysig arall. Roedd yn cael ei fynegi mewn [[rhyddiaith]] a [[barddoniaeth]].
 
Ymledodd o Brofens ar draws gorllewin Ewrop, i wledydd Prydain, gogledd Ffrainc (gwaith y [[Trouvères]] a [[Chrétien de Troyes]] er enghraifft), yr Almaen (y [[Minnesänger]]) a'r Eidal (y [[Stilnovisti]] a gwaith [[Dante]]) a thu hwnt. Yng Nghymru gwelir ei ddylanwad amlycaf ar rai agweddau o waith [[Dafydd ap Gwilym]] ac eraill o'r [[cywydd]]wyr ac yn y [[Tair Rhamant]]. Yn yr olaf, ac yn y rhamantau [[Arthur]]aidd yn gyffredinol, gwelir cydblethu serch llys a nodweddion [[Celt]]aidd.