Y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Gweler hefyd: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|ast}} (5) using AWB
B clean up
Llinell 3:
Dechreuodd y '''Rhyfel Byd Cyntaf''' yn [[1914]] a daeth i ben yn [[1918]]. Dyma'r tro cyntaf y defnyddiwyd [[arfau cemegol]] a'r tro cyntaf y gollyngwyd bomiau o awyrennau. Nid oedd cymaint o filwyr erioed o'r blaen wedi cael eu defnyddio mewn gwrthdaro neu ryfel, ac anafwyd mwy o filwyr nag erioed o'r blaen.
 
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod o newidiau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Dyma gyfnod cwymp teuluoedd fel yr [[Habsburg]], y [[Romanov]], a'r [[Hohenzollern]] a oedd wedi bod mor ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i ddyddiau y [[Y Croesgadau|croesgadau]].
 
Achosodd y rhyfel hon yr [[Ail Ryfel Byd]] yn ogystal a [[Comiwnyddiaeth|Chomiwnyddiaeth]] a'r [[Rhyfel Oer]] ac felly roedd yn ddylanwad sylweddol ar fywyd yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]].
 
Oherwydd y rhyfel hon daeth cyfnod [[absoliwtiaeth]] Ewrop i ben a chafwyd [[Chwyldro Rwsia]]. Cwymp [[yr Almaen]] (heb ddatrys problemau'r wlad) oedd achos [[Natsïaeth]] a dechrau yr [[Ail Ryfel Byd]] ym [[1939]].
 
Dyma'r rhyfel modern cyntaf i ddibynnu ar [[tecnoleg|dechnoleg]] arfau a lledaenu dychryn rhwng pobl cyffredin nad oeddent yn filwyr.
 
Lladdwyd mwy na 9 miliwn o filwyr yn ystod y brwydrau a bron cynnifer o bobl cyffredin o achos newyn, [[hil-laddiad]] a bomiau. Lladdwyd 40,000 o Gymry a oedd yn y lluoedd arfog.
Llinell 38:
Parhaodd [[Brwydr Gallipoli]] hyd Ionawr [[1916]], pan orfododd y Twrciaid y cyngheiriaid i encilio. Gwnaeth y frwydr yma [[Mustafa Kemal Atatürk]] yn arwr cenedlaethol yn Nhwrci.
 
Ar [[7 Mai]] suddwyd y llong Brydeinig ''[[Lusitania (llong)|Lusitania]]'' yn ddirybudd gan dorpedo a daniwyd gan y [[llong danfor]] Almaenig ''U-20'' gyferbyn a [[Kinsale]] ar arfordir deheuol [[Iwerddon]]. Collwyd 1198 o fywydau; tua 228 ohonynt yn ddinasyddion Americanaidd. Gwaethygodd hyn y berthynas rhwng yr Almaen a'r Unol Daleithiau yn fawr.
 
Ar [[9 Mai]] ymosododd lluoedd Prydain a Ffrainc yn [[Artois]]; parhaodd [[Brwydr Lens]] hyd ganol Mehefin, ond cafwyd colledion mawr heb fedru torri trwodd.
Llinell 46:
[[Delwedd:French 87th Regiment Cote 34 Verdun 1916.jpg|bawd|220px|Milwyr Ffrengig yn y ffosydd yn ystod Brwydr Verdun]]
 
Erbyn dechrau 1916, roedd y sefyllfa ar y ffrynt gorllewinol wedi sefydlogi, a nifer o ymdrechion gan y ddwy ochr i dorri trwodd wedi methu. Penderfynodd pennaeth y fyddin Almaenig, [[Erich von Falkenhayn]], ymosod ar ardal Verdun. Roedd [[Brwydr Verdun]], rhwng [[21 Chwefror]] ac [[18 Rhagfyr]], yn un o frwydrau pwysicaf y rhyfel ac un o'r rhai mwyaf gwaedlyd; lladdwyd dros chwarter miliwn o filwyr ar y ddwy ochr a chlwyfwyd o leiaf filiwn.
 
Ar ddechrau'r ymosodiad, enillodd yr Almaenwyr lawer o diriogaeth. Ar [[25 Chwefror]] cipiasant Fort Douaumont. Apwyntiwyd y cadfridog [[Philippe Pétain]] i fod yn gyfriol am yr amddiffyniad Ffrengig, a llwyddwyd i arafu ymosodiad yr Almaenwyr. Galluogodd hyn y Ffrancwyr i ddod a mwy o filwyr ac adnoddau rhyfel i faes y gad ar hyd y ''Voie Sacrée''.
Parhaodd yr ymosodiadau am fisoedd, gyda cholledion enbyd ar y ddwy ochr. Ar [[1 Mai]] cymerodd y cadfridog [[Robert Nivelle]] le'r cadfridog Pétain. Ar [[22 Mehefin]] [[1916]], defnyddiodd yr Almaenwyr nwy gwenwynig am y tro cyntaf yn y rhyfel.
 
Ar [[1 Gorffennaf]] dechreuodd [[Brwydr y Somme 1916|Brwydr y Somme]], oedd wedi ei bwriadu i geisio lleihau'r pwysau ar Verdun. Lladdwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr ym Mrwydr y Somme, a barhaodd hyd fis Tachwedd . Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrenngig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19 km) o hyd i'r gogledd a'r de o [[Afon Somme]] yng ngogledd Ffrainc. Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf, [[1 Gorffennaf]] 1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.
 
Gwrth-ymosododd y Ffrancwyr yn Verdun ar [[21 Hydref]] [[1916]], a chipiasant Fort Douaumont ar [[24 Hydref]]. Erbyn ymosodiad olaf y Ffrancwyr a ddechreuodd ar [[11 Rhagfyr]], roedd yr Almaenwyr wedi eu gyrru yn ôl bron i'w man cychwyn. Ar [[6 Rhagfyr]] daeth [[David Lloyd George]] yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Llinell 65:
 
=== 1918 ===
[[Delwedd:Bombers of WW1.ogg|thumbtime=3|de]]
 
Yn dilyn y chwyldro yn Rwsia, arwyddwyd [[Cytundeb Brest-Litovsk]] rhwng Rwsia a'r Almaen ar [[3 Mawrth]]. Collodd Rwsia nifer o diriogaethau yn gyfnewid am heddwch. Galluogodd hyn yr Almaen i symud milwyr i'r ffrynt gorllewinol. Ar yr ochr arall, roedd nifer gynyddol o filwyr yr Unol Daleithiau yn ymuno a'r ymladd.
Llinell 71:
Ar [[21 Mawrth]], dechreuodd y fyddin Almaenig dan y cadfridog [[Erich Ludendorff]] ymosodiad newydd yn y gorllewin, i geisio rhoi diwedd ar y rhyfel cyn i fwy o luoedd yr Unol Daleithiau gyrraedd. Cawsant gryn lwyddiant, a dynesodd y ffrynt hyd at 120 km (75 milltir) o ddinas [[Paris]]. Ar ôl ymladd caled, llwyddodd y cyngheiriaid i sefydlogi'r ffrynt.
 
Dechreuodd gwrthymosodiad y cyngheiriaid ar [[8 Awst]], gyda byddinoedd Prydain, Ffrainc, Awstralia a Chanada yn cymeryd rhan ym [[Brwydr Amiens|Mrwydr Amiens]], gyda 414 o danciau a 120,000 o filwyr. Erbyn yr Hydref, roedd gallu'r Akmaen a'i chyngheiriaid i barhau'r rhyfel bron ar ben. Arwyddodd [[Bwlgaria]] gadoediad ar [[29 Medi]], ac ar [[30 Hydref]] ildiodd Ymerodraeth yr Ottomaniaid. Ar [[24 Hydref]] dechreuodd byddin [[yr Eidal]] ymosodiad newydd yn erbyn Awstria-Hwngari, a dinistriwyd byddin Awstria-Hwngait ym [[Brwydr Vittorio Veneto|Mrwydr Vittorio Veneto]]. Ar [[3 Tachwedd]] gofynnodd Awstria-Hwngari am gadoediad,
 
Bu chwyldro yn yr Almaen, a chyhoeddwyd gweriniaeth ar [[9 Tachwedd]]; ffôdd y Kaiser [[Wiliam II, ymerawdwr yr Almaen|Wilhelm II]] i'r [[Iseldiroedd]]. Arwyddwyd cadoediad a'r Almaen yn Compiègne, ac am unarddeg y bore ar [[11 Tachwedd]] 1918 daeth y rhyfel i ben.
Llinell 119:
Y bardd Cymraeg a gysylltir yn arbennig a'r rhyfel yw [[Hedd Wyn]] (Ellis Humphrey Evans, [[1887]] - [[1917]]), brodor o [[Trawsfynydd|Drawsfynydd]], a aeth yn [[milwr|filwr]] ym 15fed Bataliwn [[y Ffiwsilwyr Cymreig]] yn [[1917]] ac a laddwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem (rhan o [[Brwydr Passchendaele|Frwydr Passchendaele]]) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917]] am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr [[eisteddfod]] honno fel '''Eisteddfod y Gadair Ddu'''. Ysgrifennodd y bardd [[Robert Williams Parry]] gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r linell cofiadwy "Y bardd trwm dan bridd tramor."
 
Mae'r nofel ''[[Plasau'r Brenin]]'' (1934) gan [[Gwenallt]] yn seiliedig ar brofiad yr awdur fel carcharor cydwybodol oherwydd iddo wrthwynebu gwasanaethu yn y lluoedd arfog am ei ddaliadau fel [[heddychaeth|heddychwr]]. Nofel Gymraeg arall sy'n deillio o'r rhyfel yw ''[[Amser i Ryfel]]'' gan [[:en:Thomas Hughes Jones | T. Hughes Jones]].
 
Ymhlith beirdd Saesneg y rhyfel, roedd [[Rupert Brooke]], [[Wilfred Owen]], [[Siegfried Sassoon]] ac [[Isaac Rosenberg]]. Yr enwocaf o'r nofelau a ysbrydolwyd gan y rhyfel oedd nofel [[Almaeneg]] gan [[Erich Maria Remarque]], ''Im Westen nichts Neues'' ("Dim byd newydd yn y gorllewin"), a gyhoeddwyd fel llyfr yn gynnar yn 1929 ac a oedd eisoes wedi ei throsi i 26 o ieithoedd erbyn diwedd y flwyddyn honno.
Llinell 148:
* [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru]]
* [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol]]
 
 
 
 
 
 
 
[[Categori:Y Rhyfel Byd Cyntaf| ]]