Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Llinell 56:
===Y daith trwy Gymru ac i Faes Bosworth===
{{Prif|Brwydr Maes Bosworth#Y daith trwy Gymru ac i Faes Bosworth}}
Yn hytrach na theithio'n uniongyrchol i Lundain i ymladd am Goron Lloegr, teithiodd Harri i'r gogledd - i [[Machynlleth|Fachynlleth]], tref a oedd yn orlawn o symboliaeth cenedlaethol Gymreig, gan mai yno y bu Senedd [[Owain Glyn Dŵr]]. Yma hefyd y brwydrodd hynafiaid Harri yn erbyn [[Harri IV, brenin Lloegr]]. Ar ei ffordd i Fachynlleth, casglodd llu enfawr, ac yn gyfochrog i'w daith, teithiodd [[Rhys ap Thomas]] ([[1449]] – [[1525]]), un o uchelwyr mwyaf grymus [[De Cymru]] gan gasglu dros 3,000 o Gymry. Wedi cyrraedd Machynlleth, a thrafod gyda Gwyr Gwynedd, trodd Harri ei fyddin tua Lloegr ac ar 16 Awst unwyd y ddwy fyddin ar gopa bryn gwastad enfawr ychydig i'r dwyrain o'r [[Trallwng]] sef [[Cefn Digoll]], ger y ffin â [[Swydd Amwythig]].
 
==Brwydr Maes Bosworth==
Llinell 62:
 
==Wedi Maes Bosworth==
Wedi cyfnod byr yng [[Caerlŷr|Nghaerlŷr]], ar y 3ydd o Fedi, teithiodd Harri a'i osgordd i Lundain gan arwain prosesiwn o [[Shoreditch]] i [[Eglwys Gadeiriol Sant Paul]] gan osod y Ddraig Goch a dwy faner arall i orffwys wrth yr allor. Pythefnos yn ddiweddarach daeth wyneb yn wyneb â'i fam am y tro cyntaf ers pan oedd yn 14 oed (1470); daeth hithau i Lundain i fyw yn un o'i dai: Coldharbour, ar lan y Tafwys.
 
Yn dilyn y frwydr canodd y beirdd, gan gynnwys Guto'r Glyn a ganodd gywydd i Rhys ap Tomas o Abermarlais a'i ran ym muddugoliaeth Harri: