Teyrnas Castilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Teyrnas yng ngogledd yr hyn sy'n awr yn [[Sbaen]] yn y [[Canol Oesoedd]] oedd '''Teyrnas Castilla''' ([[Sbaeneg]]: ''Reino de Castilla'', [[Ffrangeg]]: ''Castille'', [[Saesneg]]: ''Castile''). Safai i'r dwyrain o [[Teyrnas Léon|Deyrnas Léon]], gan ymestyn o [[Bae Biskaia|Fae Biskaia]] yn y gogledd hys at ffiniau [[al-Andalus]] yn y de. Yn rhan olaf yr Oesoedd Canol, hi oedd y deyrnas fwyaf yn Sbaen.
 
Dechreuodd y broses o adfeddiannu Sbaen gan y Cristionogion, a elwir y [[Reconquista]], gyda gwrthwynebiad teyrnas fychan [[Asturias]] i [[Islam|Fwslimiaid]] al-Andalus, oedd wedi meddiannu bron y cyfan o benrhyn Iberia o [[711]] ymlaen. Wrth i'r Cristionogion ennill tir ac ymestyn eu tiriogaethau tua'r de, ymddangosodd yr enw Castilla tua [[800]].
 
Ar y dechrau, roedd Castillia yn cael eu rheoli gan frenhinoedd Asturias a León. Yn [[1037]], ffurfiodd [[Ferdinand Iaf, brenin Castilla|Ferdinand I]] deyrnas unedig Castillia a León. Yn 1058, dechreuodd Ferdinand gyfres o ryfeloedd yn erbyn y Mwslimiaid, ac arweiniodd buddugoliaethau'r Cristionogion ym mrwydrau Alarcos a la Navas de Tolosa at goncro'r tiriogaethau a elwir yn Castilla Newydd.
 
Tyfodd y deyrnas yn sylweddol yn ystod teyrnasiad Alphonso VI (1065-1109) ac Alphonso VII (1126-1157). Tyfodd bywyd diwylliannol y deyrnas dan Alphono X, ond dilynwyd hyn gan gyfnod hir o ymryson mewnol. Yn [[1469]], priododd [[Isabel I, brenhines Castilla]] a [[Ferdinand II, brenin Aragon]], gan ddechrau'r broses o uno teyrnasoedd Castilla ac Aragon, a chreu Teyrnas Sbaen.
 
Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: [[Castilla-La Manche]] a [[Castilla-y-León]].
 
[[Delwedd:506-Castile 1210.png|bawd|chwith|250px|Teyrnas Castilla yn 1210]]