Terfysgoedd Nos White: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2916092 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 2:
Cyfres o ddigwyddiadau treisgar a ddechreuwyd oherwydd dedfryd byr [[Dan White]] am [[bradlofruddiaeth Moscone-Milk|fradlofruddio]] Maer [[San Francisco]] [[George Moscone]] a [[Harvey Milk]], [[Bwrdd Arolygwyr San Francisco|arolygwr]] [[hoyw]] agored San Francisco oedd '''terfysgoedd nos White'''. Digwyddodd ar noson yr 21 Mai, 1979 yn San Francisco. Ynghynt y diwrnod hwnnw, cafwyd White yn euog o [[dynladdiad gwirfoddol]], y dedfryd lleiaf posib am ei weithredoedd.
 
Roedd gan [[cymuned hoyw|gymuned hoyw]] yn San Francisco hanes o wrthdaro hir dymor gydag Adran Heddlu San Francisco. Dwyshaodd statws White fel cyn-blismon ddicter y gymuned tuag at AHSF. Yn wreiddiol cafwyd gwrthdystiadau wrth i brotestwyr orymdeithio drwy ardal [[Ardal Castro|Castro]] yn San Francisco. Pan gyrhaeddodd y dorf [[Neuadd Dinas San Francisco]], trodd y brotest yn dreisgar. Achoswyd cannoedd o filoedd o ddoleri o ddifrod i eiddo Neuadd y Ddinas ac ardaloedd cyfagos, yn ogystal ag anafiadau i heddweision a therfysgwyr.
 
Sawl awr ar ôl i'r terfysg ddod i ben, ymatebodd yr heddlu drwy gynnal cyrch ar [[bar hoyw|far hoyw]] yn Castro o San Francisco. Ymosodwyd ar nifer o'r cwsmeriaid gan heddweision mewn gwisg terfysgoedd. Arestiwyd 24 o bobl yn ystod y cyrch, ac yn ddiweddarach daethpwyd a sawl achos yn erbyn AHSF.<ref>Gorney, Cynthia (4 Ionawr, 1984). "The Legacy of Dan White; A stronger gay community looks back at the tumult". The Washington Post.</ref>