Cymraeg y gogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Ogress (sgwrs | cyfraniadau)
wikilink
Llinell 1:
{{Cymraeg}}
 
'''Cymraeg y Gogledd''' yw'r [[Gymraeg]] a sieredir yn y rhan fwyaf o [[Gogledd Cymru|Ogledd]] [[Cymru]] a rhannau gogleddol [[Canolbarth Cymru]]. Nid yw'n dafodiaith ynddi'i hun ond yn hytrach grŵp o dafodieithoedd sydd gyda'i gilydd yn ffurffio un o ddwy gangen dafodieithol y Gymraeg ([[Cymraeg y de]] yw'r llall).
 
Rhennir Cymraeg y Gogledd yn ddwy brif dafodiaith, sef [[Y Wyndodeg|Gwyndodeg]] a [[Y Bowyseg|Phowyseg]]. Mae gan y ddwy dafodiaith hyn eu hymraniadau hwythau yn ogystal. Sylwer hefyd mai dosbarthiad cyffredinol yw hyn. Mewn rhai pethau mae'r Bowyseg a'r [[Ddyfedeg]] yn fwy agos i'w gilydd nag y maen nhw i'r Wyndodeg ar y naill law a'r [[Wenhwyseg]] ar y llall; yn wir mai'r Wyndodeg a'r Wenhwyseg yn rhannu sawl nodwedd â'i gilydd, e.e. ''petha'' am y gair 'pethau' (ond ''pethe'' yn y Bowyseg a'r Ddyfedeg).