Asilah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Assilah Waterfront2.jpg|300px|bawd|Asilah]]
Dinas ym [[Moroco]] yw '''Asilah''' (hefyd weithiau '''''Arzila''''') ([[Arabeg]]: أصيلة، أرزيلة‎), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y [[Cefnfor Iwerydd]], tua 50 km i'r de o [[Tanger]], yn rhanbarth [[Tanger-Tétouan]]. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.
 
Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y [[Ffeniciaid]] fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel '''''Zilis'''''. Cefnogodd y Ziliaid ddinas [[Carthago]] yn y [[Rhyfeloedd Pwnig]], ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y [[Rhufeiniaid]] buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o [[Iberiaid]] yn eu lle. Yn y 10fed ganrif ceisiodd [[Normaniaid]] [[Sisili]] ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a [[Portiwgal]] a [[Sbaen]] o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan [[Moulay Ismail]]. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.