Oum Er-Rbia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Oum Errabiaa.jpeg|250px|bawd|Oum Er R'bia]]
[[Afon]] ail fwyaf [[Moroco]] gyda hyd o 600 km yw'r '''Oum Er-Rbia''' (ceir sawl amrywiad ar sillafiad yr enw yn y wyddor Rufeinig, yn cynnwys '''Oum Errabiaa''', '''Oum Er R'bia''' ac '''Oum Er-Bia''').
 
Gorwedd tarddle'r afon yn yr [[Atlas Canol]] tua 40 km o dref [[Khénifra]] a 26 km o M'rirt, yn ''commune'' wledig Oum Errabiaa. Ar ôl llifo am 600 km ar draws y wlad i gyfeiriad y gorllewin mae'n [[aber]]u yng [[Cefnfor Iwerydd|Nghefnfor Iwerydd]] ger dinas fechan [[Azemmour]] (rhanbarth Abda-Doukkala, [[Grand Casablanca]]).
 
Ceir wyth [[argae]] ar ei chwrs, sy'n cyflenwi dŵr i ardal eang; y pwysicaf yw Bin el Ouidane, ar Oued El Aabid, ger tref [[Beni Mellal]] 120 km o Khénifra. Mae'r afon yn dyfrhau tiroedd [[amaeth]]yddol gwastatiroedd Tadla ac Abda-Doukkala. Prif lednentydd yr Oum Errabiaa yw Oued Srou, Oued Chbouka ac Oued Ouaoumana.