Kroumirie: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B clean up
Llinell 1:
[[Image:Kroumirie.jpg|dde|340px|bawd|Cefn gwlad Kroumirie (Tiwnisia)]]
Mae'r '''Kroumirie''', neu'r '''Khroumirie''', yn rhanbarth fynyddig yn y [[Maghreb]]. Fe'i enwir ar ôl y bobl Kroumiriaid lleol.
 
Mae mynyddoedd y Korumirie yn ymestyn yn gadwynoedd o fryniau coediog canolig eu huchder yng ngogledd-orllewin [[Tiwnisia]] a rhan gyfagos o ogledd-ddwyrain [[Algeria]]. I'r gogledd ceir gwastadedd ar lan y [[Môr Canoldir]], i'r dwyrain mae gwastadeddau ardal [[Bizerte]], i'r de ceir dyffryn [[afon Medjerda]] ac i'r gorllewin ymdoddant i fryniau Algeria dros y ffin, a nodir gan copa [[Djebel Abiod]], yn Tunisie, pwynt uchaf y Kroumirie.
 
Mae'n un o'r ardaloedd gwlypaf yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]], sy'n derbyn rhwng 1000 a 1500 mm o law y flwyddyn.
 
Ceir dau safle archaeoloegol pwysig ar lethrau deheuol y Kroumirie, ger [[Jendouba]], sef dinasoedd [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeinig]] [[Bulla Regia]] a [[Chemtou]].
Llinell 15:
*Ouled Said (is-grwp: Ouled Saad)
 
Mae Kroumiriaid yr ucheldiroedd (yn ardal [[Aïn Draham]]), yn perthyn i'r Sloul a'r Slelma (is-raniadau: Debabsa, Atatfa, Tebaïnia, Hamran, Gouaidia, a.y.b.). Dyma'r "cnewyllyn cadarn" ac mae'r llwythau eraill wedi fel petae eu clymu o'u cwmpas, yn arbennig fel canlyniad i'r goresgyniad o Diwnisia gan [[Ffrainc]] yng ngwanwyn [[1881]].
 
Gellid dosbarthu'r llwythau yn ôl ardal o fewn y Kroumirie yn ogystal: