La Marsa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Tunisia → Tiwnisia, Tunis → Tiwnis
B →‎top: clean up
Llinell 2:
Mae '''La Marsa''' ([[Arabeg]]: المرسى‎ ''al-Marsa'') yn dref arfordirol yng ngogledd-ddwyrain [[Tiwnisia]] tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas [[Tiwnis]] (36°52′60″Gog, 10°19′60″Dw). Mae ganddi boblogaeth o tua 65,742 (2006). Er iddi ddechrau ei dyddiau fel tref ar wahân fe'i hystyrir bellach yn rhan o [[Tiwnis Fwyaf|Diwnis Fwyaf]].
 
Mae La Marsa yn gorwedd ar ben gogleddol [[Rheilffordd y TGM]], sy'n ei chysylltu â Thiwnis ei hun. Gyda'i chymdogion [[Sidi Bou Saïd]] ac ardal [[Carthage]] mae'n un o'r trefi mwya dethol a chyfoethog yn y wlad ac mae prisiau tai yn uchel. Mae ganddi dau draeth eang, tywodlyd, sy'n boblogaidd gan drigolion Tiwnis haf a gaeaf. Rhed y ''corniche'' (rhodfa'r môr) ar hyd y traeth gorllewinol.
 
Y tu draw i'r ''corniche'' ceir ardal dra-ddethol '''Gammarth''' gyda gwestai pum seren a filas cyffelyb. Yma yr oedd llywodraeth y Diwnisia gyn-drefedigaethol yn arfer symud yn yr haf, i osgoi gwres llethol y brifddinas. Mae llawer o'r adeiladu yn dyddio o'r cyfnod [[Ffrainc|Ffrengig]]. Ceir sgwâr tawel gyda [[mosg]] yng nghanol y dref, ger yr orsaf TGM.