Môr Marw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Dead sea newspaper.jpg|200px|bawd|Dyn yn darllen ar wastad ei gefn ar y '''Môr Marw''']]
Mae'r '''Môr Marw''' ([[Hebraeg]]: ים המלח‎; [[Arabeg]]: البحر الميت‎) yn fôr cyfandirol a leolir rhwng y [[Glan Orllewinol|Lan Orllewinol]], [[Israel]] a [[Gwlad Iorddonen]] yn y [[Dwyrain Canol]]. Mae ei ddyfroedd yn hallt iawn (30% o halen), sy'n ei wneud yn fwy hallt nag unrhyw bwll arall o ddŵr yn y byd (dros wythwaith mwy hallt na'r môr ar gyfartaledd), ac heb fod yn medru cynnal [[bywyd]].
 
Ei arwynebedd yw 1050 [[km²]] (400 milltir sgwâr), ei hyd yw 67 km (42 milltir) a'i led yw 18 km (11 milltir). Mae [[Afon Iorddonen]] yn rhedeg i mewn iddo ond does dim afon yn llifo ohono a dyna pam fod cymaint o [[halen]] yn y [[dŵr]]. Fe'i gelwir '''Y Môr Marw''' nid yn unig gan nad oes bywyd ynddo ond gan ei fod mor llonydd, fel rheol. Oherwydd ei fod mor hallt mae pobl yn medru arnofio ar wastad eu cefnau arno heb drafferth yn y byd.