Irac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif → 13g using AWB |
B clean up |
||
Llinell 74:
Pan enillodd Irac ei hannibyniaeth yn sgîl [[yr Ail Ryfel Byd]] daeth y [[Plaid Ba'ath|Ba'athiaid]] i rym a chychwynwyd cyfnod o foderneiddio a seciwlareiddio. Daeth [[Saddam Hussein]] i rym yng Ngorffennaf 1979 a gwelwyd cyfnod o orthrwm i lawer, yn arbennig y [[Cyrdiaid]] yn y gogledd a'r [[Shiaid]] yn y de, a byd cymharol gyfforddus i eraill. Bu'r Ba'athiaid mewn grym drwy gyfnod [[Rhyfel Irac ac Iran|y rhyfel yn erbyn Iran]] (1980–88) pan ymosodwyd ar filwyr a phobl Iran gydag [[arfau cemegol]]. Yn y cyfnod hwn cefnogwyd Saddam Hussein gan Brydain ac U.D.A. Parhaodd Irac i fod yn wlad seciwlar a roddai addysg a statws cydraddoldeb a chyfle i ferched y wlad fwynhau rhyddid sy'n cymharu'n dda â'u sefyllfa yn [[y Gorllewin]].
Pan ymosododd Iraq ar Ciwait yn ystod Rhyfel y Gwlff yn Awst 1990, mabwysiadodd [[Cyngor Diogelwch y Cenedloedd Unedig]] gynnig 678 dan bennod VII o Siarter y Cenhedloedd Unedig, gan roddi i'r gwledydd yr hawl i ddefnyddio "pob modd posibl" i "adfer heddwch rhyngwladol a diogelwch yr ardal" Ar ôl i Iraq gael ei bwrw allan o Ciwait derbyniwyd cynnig o ymatal 687 gan y Cenedloedd Unedig. Roedd hyn yn cynnwys gorfodi Iraq i derfynnu ei rhaglen o arfau niwclear a chemegolion angheuol, os oedd yn eu cynhyrchu.
Bu farw rhwng 20,000–35,000 o Iraciaid yn Rhyfel y Gwlff a 147 o'r Cynghreiriaid.<ref name="ca.encarta.msn.com">{{cite web|title=Persian Gulf War |publisher=MSN Encarta |url=http://ca.encarta.msn.com/encyclopedia_761551555_2/Arabian_Gulf_War.html|archiveurl=http://www.webcitation.org/5kwqMXGNZ|archivedate=31 Hydref 2009}}</ref><ref name="airCombatInformationGroup">[http://www.acig.org/artman/publish/article_213.shtml Iraqi Invasion of Kuwait; 1990 (Air War)]. Acig.org. Retrieved on 12 Mehefin 2011</ref>
Llinell 86:
Yn ystod Rhyfel Irac, a hyd at ddiwedd Mehefin 2005, bu farw 654,965 o bobl yn ôl y 'Lancet'<ref>[http://brusselstribunal.org/pdf/lancet111006.pdf brusselstribunal.org;] adalwyd 5 Chwefror 2015</ref><ref name=supplement>Supplement to 2006 Lancet study: {{PDFlink|[http://web.mit.edu/CIS/pdf/Human_Cost_of_War.pdf ''"The Human Cost of the War in Iraq: A Mortality Study, 2002–2006"'']|603 KB}}. Gan Gilbert Burnham, Shannon Doosy, Elizabeth Dzeng, Riyadh Lafta, a Les Roberts.</ref><ref>Opinion essay (numerous signatories) (21 Hydref 2006). [http://www.theage.com.au/news/opinion/the-iraq-deaths-study-was-valid-and-correct/2006/10/20/1160851135985.html ''"The Iraq Deaths Study Was Valid and Correct"'']. ''The Age''. Adalwyd 2 Medi 2010</ref>
Protestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn [[Llundain]] ac yn ninasoedd eraill trwy'r byd gan ddod i'w hanterth yn Chwefror 2003; ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr y ddwy wlad. Er hyn, parhaodd protestiadau am fisoedd i ddod.<ref>{{dyf new|dyddiad=[[12 Ebrill]], [[2003]]|teitl=Protest yn erbyn y rhyfel|cyhoeddwr=[[BBC]]|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_2940000/newsid_2942800/2942889.stm}}</ref> Un o'r prif resymau dros benderfyniad [[Tony Blair]] dros fynd i'r Rhyfel oedd ei honiad fod gan Irac y gallu i ymosod gyda chemegau gwenwynig ar Brydain, gyda dim ond 45 munud o rybydd.
Fel canlyniad i Ryfel Irac cafwyd etholiadau yn 2005 ac etholwyd Nouri al-Maliki yn Brif Weinidog yn 2006 hyd at 2014. Ar ôl sefydlu'r llywodraeth newydd, daeth galwadau o'r gwledydd sy'n ffinio ag Irac ar luoedd America a Phrydain i adael y wlad,<ref>{{dyf new|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_2960000/newsid_2960400/2960403.stm|teitl='Rhaid i America adael Irac'|dyddiad=[[19 Ebrill]], [[2003]]|cyhoeddwr=[[BBC]]}}</ref>.
Ar 15 Mehefin 2009 cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, [[Gordon Brown]], ymchwiliad i'r hyn a arweiniodd i'r Rhyfel gan gynnwys y 'rhesyma' a'r dystiolaeth a oedd ar gael i wneud y penderfyniad o fynd i'r rhyfel, 'er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol'. Gelwir yr ymchwiliad hwn yn [[Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac]] a chychwynwyd ar y gwaith ar 24 Tachwedd 2009.
== Taleithiau ==
Llinell 151 ⟶ 150:
{{Gwledydd Arabaidd}}
{{Asia}}
[[Categori:Irac| ]]
|