Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ankara"

No change in size ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up
B (clean up)
[[Prifddinas]] [[Twrci]] a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno yw '''Ankara''' (hefyd: '''Ancara'''; hen enwau '''Angora''' ac '''Ancyra'''), sy'n brifddinas [[Talaith Ankara]] yn ogystal. Ym [[2007]] roedd tua 4,455,453 o bobl yn byw yn y ddinas. Lleolir Ankara 938 medr uwchben lefel y môr. Mae hinsawdd cyfandirol, gyda hafau tymherol ac eira yn y gaeaf. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf yr wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am ei [[gafr|geifr]] blew hir ynghyd â'r [[gwlân]] arbennig a geir ohonynt, sef [[gwlân Angora]].
 
Cafodd y ddinas ei chodi yng nghanol ucheldir [[Asia Leiaf|Anatolia]] ac mae'n groesffordd [[cludiant]] bwysig iawn i [[ffordd|ffyrdd]] a'r [[rheilffordd|rheilffyrdd]] fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent a [[Prifysgol Ankara|Phrifysgol Ankara]] ei hun. Mae [[Llyfrgell Genedlaethol Twrci]] a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.
 
Ers y dewiswyd hi fel prifddinas Twrci gan [[Kemal Atatürk]] yn lle [[Istanbul]], mae'r ddinas wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys hen ardal o'r enw '''Ulus''' ynghyd ag ardal newydd o'r enw '''Yenisehir'''. Mae adeiladau [[Rhufeiniaid|Rhufeinig]], [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantaidd]] ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|Otomanaidd]] yn y strydoedd cul yn yr hen chwarter, a cheir gwestai mawr, theatrau, canolfannau siopio ac ati yn yr ardal newydd. Mae [[Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci]] a swyddfeydd y [[Llywodraeth Twrci|llywodraeth]], ynghyd â llysgenhedaethau gwledydd tramor i'w cael yn yr ardal newydd hefyd.
 
{{Prifddinasoedd Ewrop}}
{{eginyn Twrci}}
 
[[Categori:Ankara| ]]
[[Categori:Ankara (talaith)]]
[[Categori:Prifddinasoedd Asia]]
{{eginyn Twrci}}
449,732

golygiad