Istanbul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up |
|||
Llinell 1:
[[Delwedd:IstanbulHaghiaSofia.jpg|bawd|dde|200px|Tu mewn Mosg Aghia Sophia yn Istanbul]]
'''Istanbul''' ([[Twrceg]]: İstanbul, hefyd 'Stamboul; [[Cymraeg]]: '''Istanbwl''')<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Istanbul].</ref> yw dinas fwyaf [[Twrci]] a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i [[Ataturk]] ei symud i [[Ankara]] yn [[1923]], Istanbul oedd [[prifddinas]] y wlad. Yr hen enw arni oedd [[Caergystennin]] ([[Lladin]]: Constantinopolis, [[Groeg]]: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn [[1930]], a [[Byzantium]] yng nghyfnod [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]]. Heddiw, mae tua 11 i 15 miliwn o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau [[Bosphorus|Culfor Bosphorus]] ac mae'n amgae'r [[harbwr]] naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, [[Saesneg]] ''Golden Horn''). Mae rhan o'r ddinas ar dir [[Ewrop]] ([[Thrace]]) a'r gweddill yn [[Asia]] ([[Asia Leiaf|Anatolia]]); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau [[Cyfandir|gyfandir]]. Mae'n brif ddinas [[Istanbul (talaith)|Talaith Istanbul]] yn ogystal.
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair [[ymerodraeth]] wahanol, sef yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] ([[330]]-[[395]]), yr Ymerodraeth Fysantaidd ([[395]]-[[1453]]) ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ([[1453]]-[[1923]]). Mae'r ddinas wedi cael ei dewis yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am [[2010]]. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at [[Safleoedd Treftadaeth y Byd|Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]] yn [[1985]].
== Hinsawdd ==
Mae gan Istanbul [[hinsawdd is-drofannol llaith]], gyda 808
Yn gyffredinol, mae'r [[haf]]au yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26 – 28
Tuedda'r [[gaeaf]]au i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8 – 10
Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y [[gwanwyn]] a'r [[hydref]], a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.<ref name="Weatherbase"/>
|