Hastings Kamuzu Banda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau a manion using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
Arlywydd [[Malawi]] o [[1966]] hyd [[1994]] oedd '''Hastings Kamuzu Banda''' ([[1896]]? - [[25 Tachwedd]] [[1997]]).
 
Ganed Banda i deulu protestannaidd yn Kasungu, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn drefedigaeth Brydeinig [[Nyasaland]]. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei enedigaeth; dywed rhai ffynonellau ei fod yn 101 oed pan fu farw, eraill 99.
 
Bu'n astudio yn [[De Affrica|Ne Affrica]], gan weithio mewn cloddfa ddiemwntau i'w ariannu ei hun, yna yn yr [[Unol Daleithiau]]. Wedi hyn, aeth i'r [[Alban]] i astudio i ddod yn feddyg yng [[Caeredin|Nghaeredin]]. Daeth yn flaenor yn [[Eglwys yr Alban]]. Yn ddiweddarach, treuliodd flynyddoedd yn gweithio fel meddyg teulu yn [[Llundain]]. Roedd yn rhugl yn Saesneg, Ffrangeg, Lladin, Groeg a Hebraeg.
 
Dechreuodd gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth oherwydd ei wrthwynebiad cryf i ffurfio [[Ffederasiwn Rhodesia a Nyasaland]] gan y llywodraeth Brydeinig. Aeth i [[Ghana]] yn [[1953]], yna i Nyasaland yn [[1958]]. Daeth yn arweinydd y cenedlaetholwyr yno, a ffurfiodd blaid wleidyddol, y ''[[Malawi Congress Party]]'' (MCP).
 
Daeth yn brif weinidog pan ddaeth Nyasaland yn wlad annibynnol Malawi ar [[6 Gorffennaf]] [[1964]]. Ar [[6 Gorffennaf]] [[1966]], daeth Malawi yn weriniaeth, gyda Banda yn Arlywydd. Roedd ei lywodraeth yn geidwadol; roedd Malawi yn un o'r ychydig wledydd Affricanaidd i fod a chysylltiadau diplomatig a De Affrica yng nghyfnod [[Apartheid]]. Daeth i sylw rhyngwladol hefyd oherwydd ei wrthwynebiad i sgerti byrion gan ferched a gwallt hir gan ddynion.