Afon Colorado (Ariannin): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Afon yn rhan ddeheuol [[yr Ariannin]] yw '''Afon Colorado''' ([[Sbaeneg]]: ''Río Colorado''). Ystyrir fod yr afon yma yn ffurfio ffîn ogleddol [[Patagonia]].
 
Ceir tarddle'r afon yn yr [[Andes]], lle gelwir hi y [[río Barrancas]]. Mae y [[Río Grande (Mendoza)|Río Grande]] yn ymuno a hi i ffurfio'r Colorado, ac mae'n llifo tua'r de-ddwyrain i gyrraedd [[Cefnfor Iwerydd]]. Hyd [[1914]] roedd y Colorado yn tarddu o lyn mawr oedd wedi ei ffurfio gan rewlif, ac a elwid gan y [[Mapuche]] wrth yr enw ''Cari Lauquen'', ond yn y flwyddyn honno torrodd y ''morraine'' oedd yn cadw'r dŵr i mewn o ganlyniad i ddaeargrynfeydd, a diflannodd y llyn.
 
Wedi gadael yr Andes mae'r afon yn ffurfio dyffryn cul. Ffurfia'r afon y ffîn rhwng taleithiau [[Talaith Mendoza|Mendoza]] a [[Talaith Neuquén|Neuquén]] ac yna rhwng taleithiau [[La Pampa]] a [[Río Negro (talaith)|Río Negro]]. Mae wedyn yn llifo trwy ran ddeheuol [[Talaith Buenos Aires]] i gyrraedd y môr; ystyrir y darn bychan o'r dalaith honno sydd i'r de o'r afon yn rhan o Batagonia.